Pererindod Merch
    Arglwyddes [yn] y cantref [hwn], [un sy'n cynnig] cysur,
    [dewisodd] fynd [megis] lleian er mwyn y llu nefol
    ac er mwyn Non, y mae [fy] nghalon yn cadw hyn yn gyfrinach,
4    ac er mwyn Dewi, [un] wylaidd [megis] Eigr,
    o sir Fôn deg, bydded hwylus [y daith], ac yn ei blaen
    i dir Mynyw, fy anwylyd, 
    er mwyn ceisio maddeuant,
8    [bydd] ffyniant i'w chefnogwyr oherwydd [ei] haddewid,
    am [iddi] ladd ei gwasanaethwr, [un ac arno olwg] guriedig a
		  blin,
    dioddefwr eiddil llawn doluriau.
    Yn iawn am lofruddio llanc byrlymus ei awen
12    yr aeth ar ei hynt, garw yw'r golled [ar ei ôl].
    Ciliodd [yr un a chanddi] ruddiau [o liw] ffion yn chwim.
    Gadawodd yr un ddethol yn fy ngolwg sir Fôn.
    Crist Arglwydd, bydded [dwr] garw Menai yn garedig ac yn
		  gymwynasgar
16    [a] bydded yn isel.
    Llifeiriant Llyfni [ac] ergydion ei thonnau [yn gyfrwng]
		  rhwystro,
    bydded hwylus [iddi fyned] drwyddi ar ei hynt.
    Y Traeth Mawr, cludir ei fri a'i glodydd ymhell,
20   treia, caniatâ [iddi] fyned trwot. 
    Y Traeth Bychan [a'i] lifeiriant caethiwus, 
    caniatâ i'm lodes hardd y siwrnai hon.
    Cwblhawyd gweddïau taer [ar ei rhan]:
24   bydded Artro fawr yn llonydd. 
    Gwobrwywn wasanaeth porthladd Abermo
    am ei chludo draw dros ddwr isel.
    Caniatâ, Dysynni a'i thonnau niferus,
28    i'r [un] unlliw â'r gwin [fyned] i wlad Dewi.
    Dwfn hefyd yw tonnau Dyfi
    [a'u dwr] rhewllyd yn ei herbyn.
    Rheidol, er mwyn dy enw da,
32    caniatâ lwybr i'r ferch [sy'n rhoi ei] medd yn rhad.
    Ystwyth a'i dyfroedd dwfn a grymus, yn rhodd,
    er fy mwyn caniatâ i hon [fyned] dros dy donnau. 
    Aeron, gad trwot ferch [sy'n destun] clodydd cywrain,
36    [sef] bwrlwm soniarus [un] nwyfus ei serch.
    Teifi hardd, tarddiad [dwr] y môr,
    caniatâ helaethu bendithion i'r ferch.
    Yn ddiogel trwy'r afon sy'n ffin
40    y bydded i'r ferch gael mynd a dychwelyd.
    [Bydd] tynged yn sicr o'm plaid, mae [mewn gwisg o] borffor,
    os [caf] fyw, rhwng Mynyw a'r môr. 
    Os lladdodd hi fi, dros gyfnod hirfaith,
44    herwriaeth sydyn [a ddaw i'w rhan], edliwir [hynny iddi] yn
		  hir.
    [Bydded] maddeuant Mair [a'i] llaw [llawn] bendithion
    i'r un wylaidd [a phrydferth megis] gwylan a'm lladdodd.
    Heb os byddaf yn maddau i'm hanwylyd
48    a [hefyd] yn cyhoeddi pa mor ddieuog ydyw.