{ko: yn dymyno rhwydddeb i ferch ofon i fyned i Henffordd}
1 Gwawr ddyhuddiant y cantref
2 lleian aeth ir llu o nef
3 ac er Non calon ai cel
4 ac er Dewi Eigr dawel
5 o Von deg poed rhwydd rhegddi
6 i Vyniw dir v'enaid i
7 igeisio blodeuo'r blaid
8 maddeuaint am a ddywaid
9 am ladd i gwas dulas dig
10 penydiwr cul poenedig
11 o alanas gwas gwowdverw
12 yr aeth oer hiraeth ar herw
13 [404] greddyf foes gruddiae phion
14 gadewis vy newis von
15 Christ arglwydd boed rhwydd bid trai
16 gas a chymwynas Menai
19 y traeth mawr clodvawr y clod
20 treia gad vyned trwod
21 y bychan draeth gaeth gerynt
22 gad i'm dyn gwyn hyn o hynt
23 darvu'r gweddiae dirvawr
24 digyphro vo Ertro vawr
25 talwn ferm porth Abermaw
26 ar don drai er i dwyn draw
27 gydne gwin gad naw gwaneg
28 Dysynn i dir Dewi deg
29 a dwfn yw donnau Dyvi
30 dwr rhynn yn i herbyn hi
31 Reidiol er dy anrhydedd
32 heol i vvn hael o vedd
33 ystwyth ymhwyth gad ym hon
34 drais dew ddwfr dros dy ddwyfron
35 Aeron verw hyson hoywserch
36 gad trwod vyvyrglod verch
37 Teifi dwfr tyfiad eurwawn
38 gad i'r dyn gyderrio'r dawn
39 dirving drwy'r afon dervyn
40 yr el ac y del y dyn
41 mam urfawd mae ym horphor
42 os byw rhwng mynyw a mor
43 os hi am lladdawdd oes hir
44 herw hylithr hwyr ir holir
45 maddeuaint Mair neddair nawdd
46 i'm lleddf wylan a'm lladdawdd
47 diau a mi ai diavr
48 minau ai maddau i'm aur
Dauid ap Gwilim