Merch Ragorol | |
Tair gwragedd â'u gwedd fal gwawn | |
A gafas yn gwbl gyfiawn | |
Pryd cain, pan fu'r damwain da, | |
4 | A roes Duw Nef ar Efa. |
Cyntaf o'r tair disgleirloyw | |
A'i cafas, ehudras hoyw, | |
Policsena ferch Bria', | |
8 | Gwaisg o grair yn gwisgo gra. |
Yr ail fu Ddiodemaf, | |
Gwiwbryd goleudraul haul haf. | |
Trydedd fun, ail Rhun yrhawg, | |
12 | Fu Elen feinwen Fannawg, |
Yr hon a beris cyffro | |
A thrin rhwng Gröeg a Thro. | |
Pedwaredd, ddisalwedd serch, | |
16 | Y gain eglurfain glaerferch |
Yn dyfod yn deg ddiseml, | |
Llywy aur dydmwy, i'r deml, | |
A lluoedd arni'n edrych | |
20 | Ar lawr, ddisgleirfawr wawr wych. |
A myfy, doeth ym ofeg | |
Ymofyn pwy'r dynyn deg. | |
'Chwaer yw hon, lon oleuloer, | |
24 | Undad â'r lleuad, i'r lloer, |
A nith i des ysblennydd, | |
A'i mam oedd wawr ddinam ddydd, | |
Ac o Wynedd pan henyw, | |
28 | Ac ŵyr i haul awyr yw.' |
Nid gwen gwraig ar a adwaen, | |
Nid gwyn calch ar siambr falch faen, | |
Nid gwen gwelwdon anghyfuwch, | |
32 | Nid gwyn ewyn llyn na lluwch, |
Nid gwyn pryd dilis disglair | |
Wrth bryd gwyn fy myd, myn Mair! | |
Cyngwystl a wnawn cyn cyngor, | |
36 | Lliw ton geirw pan feirw ar fôr, |
Nad byw'r Cristion crededun | |
A gâi le bai ar liw bun, | |
Onid ei bod yn glodgamp, | |
40 | Duw'n fach, yn loywach no'r lamp. |
Na fid rhyfedd gan Gymro | |
Alw bun o'r eiliw y bo. | |
Poed â'r gyllell hirbell hon | |
44 | Y cordder gwâl ei galon |
A'i cymerai yn hyfryd | |
Maddau bun a meddu byd. | |
Po mwyaf fai fy nghyfoeth | |
48 | A'm canmawl cynhwynawl coeth, |
Fwy fwy y clwyfai ar naid, | |
Cof ynof, cyfyw f'enaid. | |
Pa les i minnau, wyrda, | |
52 | Maddau'r dyn a meddu'r da? |
Nid oes obaith eleni | |
I'r dyn a fo hŷn no hi. | |