Merch Ragorol
Tair gwraig â'u pryd mor wyn â'r gwawn
a gafodd yn hollol haeddiannol
y prydferthwch ysblennydd, pan fu'r digwyddiad ffodus,
4 a roddodd Duw o'r nef ar Efa.
Y gyntaf o'r tair merch ddisglair a gloyw
a'i cafodd, gras parod gwych,
oedd Policsena ferch Priam,
8 trysor rhagorol yn gwisgo ffwr.
Yr ail fu Diodemaf,
wyneb hardd yn tywynnu fel haul yr haf.
Y drydedd ferch, disgynnydd [neu un
debyg] i Run ers talwm,
12 fu Elen Fannog wen a main,
yr un a achosodd helynt
ac ymladd rhwng Groeg a Chaerdroia.
Y bedwaredd, gwedd hardd serchus,
16 [yw'r] ferch loyw, ddisglair, fain a chain
yn dod yn deg ac yn urddasol
i mewn i'r eglwys, rhiain hardd â gwregys aur,
a thorf o bobl yn edrych arni
20 ar lawr [yr eglwys], arglwyddes ddisglair ysblennydd.
A myfi, daeth awydd arnaf
ofyn pwy oedd y ferch hardd.
'Mae hon, lloer olau siriol,
24 yn chwaer i'r lloer ac â'r un tad â'r lleuad,
ac yn nith i des ysblennydd,
a'i mam oedd gwawr berffaith y dydd,
ac o Wynedd y mae'n hanu,
28 ac mae'n wyres i haul yr awyr.'
Nid gwen yr un wraig yr wy'n ei hadnabod,
nid gwyn yw calch ar ystafell faen wych,
nid gwen yw'r don welw grom,
32 nid gwyn yw ewyn llyn na lluwch eira,
nid gwyn yw'r un wyneb sicr disglair
o gymharu ag wyneb fy nghariad, myn Mair!
Gwnawn fet heb feddwl ddwywaith,
36 lliw ton dwr crych pan fo'n berwi ar fôr,
nad byw'r credadun o Gristion
a allai ganfod diffyg ar liw'r ferch,
ond ei bod yn glodwiw,
40 yn enw Duw, [ac] yn ddisgleiriach na'r lamp.
Na foed i unrhyw Gymro ryfeddu
bod y ferch yn cael ei galw yn ôl ei lliw.
Pwy bynnag a fyddai'n fodlon
44 meddiannu'r byd a rhoi'r gorau i'r ferch hon,
boed i graidd ei galon
gael ei gorddi gan y gyllell gyrhaeddbell hon.
Po fwyaf fyddai fy nghyfoeth
48 a'm priod fri urddasol,
fwyfwy y brifai bywyn f'enaid ar unwaith
[oherwydd] y cof ynof [amdani hi].
Pa les fyddai i minnau, foneddigion,
52 roi'r gorau i'r ferch a meddiannu'r eiddo?
Nid oes obaith eleni
i'r sawl a fo'n hyn na hi.