1 Tair gwragedd ai gwedd val gwawn
2 agafas yn gwbl gyfiawn
3 pryd kain pan vvr damwain da
4 arroes duw nef i eva
5 kynta or tair discleirloyw
6 ai kafas ehvdras hoyw
7 polexina verch bria
8 gwaisc o grair yn gwisco gra
9 yr ail vv ddiodemaf
10 gwiw bryd golevdravl havl haf
11 trydedd vvn ail rrvn yr hawc
12 vv elen veinwen vanawc
13 yr hon a beris kyffro
14 a thrin rrwnc groyc athro
15 pydwaredd ddissalwedd serch
16 y gain eglvrvain glaerverch
17 [174] yn dyvod yn dec ddissyml
18 nwyf gwyr avr duw dymwyr ir deml
19 a llvoedd arni yn edrych
20 ar llawr ddiscleirvawr wawr wych
21 a myvi a ddoeth amovec
22 i ymofyn pwy r dyn dec
23 chwaer yw hon lon olevloer
24 vn dad ar llevad ar lloer
25 a nith i des ysplennydd
26 ai mam oedd wawr ddinam ddydd
27 ac o wynedd pan heniw
28 ac wyr i havl awyr yw
29 nid gwen gwraic ar adwen
30 nid gwyn kalch ar siambr valch vae[ ]
31 nid gwen gwelw don anghyfiwch
32 nid gwyn ewyn llyn na llyvwch
33 nid gwyn pryd dilis disglair
34 wrth pryd gwyn vymyd myn mair
35 kynglwysc a wnawn kyn kyngor
36 lliw ton geirw pan veirw ar vor
37 nad byw r kristion krededvn
38 a gae le bai ar liw bvn
39 onid bod yn glodgamp
40 duw yn vach yn loywyach nor lamp
41 [175] na vid rryfedd gan gymro
42 alw bvn or eiliw y bo
43 poed ar gyllell hirbell hon
44 y kordder gwal i galon
45 ai kymere yn hyfryd
46 madav bvn amedvr byd
47 po mwya vai vynghywayth
48 am kanmawl kynhwynawl koyth
49 vwy vwy y klywai ar naid
50 kof ynof kyfiw venaid
51 pa les i mine wyrda
52 maddav r dyn ir meddv r da
53 nid oes obaith yleni
54 ir dyn avo hyn no hi