1 Tair gwragedd ai gwedd val gwawn
2 a gavas yn gwbwl gyviawn
3 pryd kain pan vur damwain da
4 a roes duw nef i eva
5 kynta or tair disglair loyw
6 ai kavas oi hvrddas hoyw
7 polexenna merch breia
8 gwaisc o grair yn gwisgo gra
9 yn ail vu ddeodem af
10 gwiw bryd golevdravl haulhaf
11 trydedd vun ail rvn rowiawc
12 vu elen veinwen vannawc
13 yr hon a beris y kyffro
14 a thrin rwng troya a thro
15 pydwaredd ddisalwedd serch
16 y gain eglurvain glaer verch
17 yn dyvod yn dec ddiseml
18 nwyf gwyr avr dymyr ir deml
19 a lluoedd arni yn edrych
20 ar lawr disglaer vawr wawr wych
21 am y vy doeth ym ovec
22 i ovun pwy ywr dyn dec
23 chwaer yw hon lon olevloer
24 [21] vn dad ir llevad ar lloer
25 a nith i des ysblenydd
26 ai mam oedd wawr ddinnam ddydd
27 ac o wynnedd ir heniw
28 ac wyr i haul awyr yw
29 nid gwen gwraic ar adwen
30 nid gwyn kalch ar siambyr valch vaen
31 nid gwen gwelwdon anghyviwch
32 nid gwyn ewyn llyn na lluwch
33 nid gwyn pryd dilis disglair
34 wrth bryd gwyn vymyd myn mair
35 kyngwystyl a wnnawn heb gyngor
36 lliw ton geirw pan veirw ar voor
37 nad bywr kristion krededun
38 a gae le bai ar liw bun
39 ond i bod yn glodgamp
40 duw yn vach yn loywach nor lamp
41 na vid hryvedd gan gymro
42 alw bun or eiliw i bo
47 po mwya vai vynghyvoeth
48 am kanmawl kynhwynawl koeth
49 vwy vwy i klyw vai ar naid
50 kof ynofi kyviw vennaid
43 [21b] poed ar gyllell hirbell hon
44 i kordder tal i galon
45 ai kymerai yn hyvryd
46 maddav bun a meddu byd
51 pa les i minne voy da
52 maddav y dyn a meddu y da
53 nid oes obaith y leni
54 ir bun ni bwy hyn no hi