{ko: ir bedwaredd ferch lana yn y byd}
1 Tair gwragedd ai gwedd val gwawn
2 a gavas yn gwbl gyfiawn
3 pryd cain pan vu'r damwain da
4 a roes Duw nef ar Eva
5 cyntaf or tair disglairloyw
6 ai cavas ehudras hoyw
7 Policsena verch Bria
8 gwaisg o grair yn gwisgo gra
9 [283] arail vu ddiodennaf
10 gwiwbryd goleudraul haul haf
11 trydedd vvn ail rhvn yrrhawg
12 vu Elen veinwen vanawg
13 yr hon a beris cyphro
14 a thrin y rhwng Groec a Thro
15 pedwaredd ddisymledd serch
16 y gain eglurvain glaerverch
17 yn dyvod yn deg ddiseml
18 nwyf gwyr aur dymwyr ir deml
19 a lluoedd arni'n edrych
20 ar lawr disgleirvawr wawr wych
21 a myvy doeth ym oveg
22 ymofyn pwy'r dynyn deg
23 chwaer yw hon lon oleuloer
24 vndad ir lleuad ar lloer
25 a nith i des ysblenddydd
26 ai mam oedd wawr ddinam ddydd
27 ac o Wynedd pan eddywyr henyw
28 ag wyr i haul awyr yw
29 nid gwen gwraig ar a adwaen
30 nid gwyn calch ar siambr valch vaen
31 nid gwen gwelw don anghyvvwch
32 nid gwyn ewyn llyn na llvwch
33 nid gwyn pryd dilys disglair
34 wrth bryd gwyn vymyd myn Mair
35 cynwystl a wnawn eb gyngor
36 liw tonn geyrw pan veirw ar vor
37 nad byw'r Christion crededvn
38 a gai le bai ar liw bvn
39 onid i bod yn glodgamp
40 Dyn vach yn loywach no'r lamp
41 navid rhyvedd gan Gymro
42 alw bvn or eiliw y bo
43 poed ar gyllell hirbell hon
44 y cordder gwal i galon
45 ai cymere yn hyfryd
46 a maddau bvn meddu byd
47 po mwyaf vo vy nghyvoeth
48 am canmawl cynhwynawl coeth
49 vwy vwy y clwyfai ar naid
50 cof ynof cyvyw enaid
51 pa les i minau wyrda
52 maddau'r dyn a meddy'r da
53 [284] nid oes obaith goleuni
54 ir dyn a vo hyn no hi