1 Tair gwragedd i gwedd ai gwawn
2 a gavodd yn gyvwlch gyfiawn
3 prvd kain panfyr damwain da
4 a roddes duw ar eva
5 kynta or tair disgleirloyw
6 ai kavas vy hydras hoyw
7 alexanna verch briaf
8 gwaisck o grair yn gwisgo gra
9 ar ailglod fv diodenna
10 gwiw bryd oley drayl havl ha
11 ar drydedd fyn rryn r rrawg
12 vy elen veinwen vannawg
15 ar bedwaredd ddisvmlwedd serch
16 ywr gain eglvrfain glayrverch
17 mvned yn deg ddiseml
18 o nwy tyai dymwy deml
19 a llyoedd arni yn edrych
20 ar lawr ddisglayr wawr wych
21 mine a gefais om goveg
22 govyn pwy ywr dynvn deg
23 chwayr yw hon lon oleyloyr
24 vn dad ar llevad fv lloyr
25 a nith i des ysblennydd
26 ai mam ywr wawr ddinam ddydd
27 ac o wynedd ir heinyw
28 ag wyr i havl awyr yw
29 [167] nid gwen gwraig ar adwen
30 nid gwyn kalch siambyrfalch faen
31 nid gwen gwelw don ogyfiwch
32 nid gwyn ewyn llyn na llywch
33 nid gwen prvd dilis ddisglayr
34 wr bryd gwyn fv myd myn mair
35 kynglwyst a nawn om kyngor
36 liw ton geirw pen feirw arfor
37 nad byw kristion krededyn
38 a gai le bai liw byn
39 onid i bod yn glod gamp
40 a duw yn fach loywach nor lamp
41 na vid rryfedd gen gymro
42 a lw bvn or eiliw i bo
43 poyd ar gyllell hir bell hon
44 i kordder gwal i galon
45 a gymerai yn hyfryd
46 madde bvn er meddy byd
davydd ap gwillm ai kant