Yr Adarwr
Yr adarwr, yn dilyn rhew'r dwyrain
neu luwch eira (cawod brydferth o eira),
ar lwybr a ddoda drapiau, yn ddiau,
4 ar fryn, [pan fo] lleuad y gaeaf yn hardd a llon.
Os daw â charn yr ebol [wedi'i drwytho mewn] melgawod
gydag ef, a'u rhwydo yn rhwydd,
gwiail gludiog a wnânt yn glyd
8 lannau gloyw ffynhonnau glân.
Pan ddêl aderyn (daliad poen)
i Fôn gyfagos dros draeth,
bydd yn adnabod (taith dra rhwydd)
12 tirionwch [y] tir dyfrllyd yno.
Disgyn a wna os cyffry,
bydd ei blu yn plygu mewn glud gwlyb,
hyd nes y daw (cof rhyfel llid)
16 llaw'r paratöwr [trapiau] a'i heliodd yn gwbl
lwyddiannus.
Felly y gwnaeth (tad dwyfoldeb,
mae'n fy mhoeni'n dda) Duw gyda'm cariad.
Fel eira'r rhiw (lliw teg)
20 yw wyneb y ferch; mi wn pwy yw hi.
Ffynhonnau dwfn o ddagrau glas
yw llygaid gloyw [y ferch sydd fel] Eigr.
Aeron hardd, haeddant glod:
24 gwaith gof aur [gan] Fab Mair uchod.
Can och imi (oherwydd y maent yn fy mhoeni),
tlysau Duw, nad ydynt ar gau!
Glynodd serch a nwyf disglair
28 (rhwym y glud) rhyngom gan greu clwyf.
Meddwl beiddgar (gafael anfad)
nid â oddi ar [y ferch ag] ael fonheddig
(perlysiau gloyw pen [merch] gellweirus ei meddwl,
32 meddwdod y llygaid dwyllodrus eu natur)
mwy nag aderyn (bonheddig yw hi)
o'r glud llaes; clodfawr yw ei lliw.
Cariad maith, hagrwr meddwl,
36 natur ddirgel, mae dy ergyd [yn cyrraedd] yn bell.
Ei dwy ael fain a du
yw'r gwiail gludiog, yn ennill cyfoeth.
Mwy [amlwg] ar y ferch yw'r ael fel plu mwyalch
40 na llinyn saer ar lys gwyngalchog.
Wyneb bonheddig tebyg i gwmwl [y sydd]
(pwyll sy'n treulio'n hawdd) cyn belled ag ael y ferch:
hualwyd, cadwynwyd y cof
44 (haul y ddawn); fe'i hoeliwyd ynof.