k. y bardd at i gariad
1 Adarwr o rew dwyrain
2 Neu od eiry gawod gain
3 Ymrisc dut ymraisc dioer
4 Ymron wilon aeafloer
5 O daw gwrtlys mel gawad
6 Ganllaw ai ryddaw yn rhad
7 glud wiail a glydwyan
8 glannau gloew ffynhonnau glan
9 Pan ddel edn poen ddailiadeth
10 I von gyvagos dros draeth
11 Ir ednebydd dra rudd dro
12 Dirionwch dyfr dir yno
13 Disgyn a wna od ysgyg
14 I blu mewn dyrflud a blyg
15 Yni ddel cof rhyvel kawdd
16 llaw /r/ hwyliwr ai llwyr heliawdd
17 velly gwnaeth dwyvoliaeth dad
18 Da im kur duw am kariad
19 Mal eiry vnlliw llywy
20 Wyneb bun mi a wnn pwy
21 [152] ffynonnau divas glas daigr
22 yw gloywon olygon eigr
23 Aeron glandir peran glod
24 Aur ychiad mab mair vchod
25 kannoch vi pan ym kennynt
26 kauau duw nad kaead ynt
27 Glynodd serch a goleunwyf
28 Rhwym y glud y rhom o glwyf
29 Drud oveg diriaid avael
30 Nid a iar vynyd ael
31 Pefr lys pen kydkamvs pwyll
32 Medddod y llygaid modddwyll
33 Mwyn nog edn mynawg ydiw
34 Or glud llaes mawrglod i lliw
35 Hir gariad dybryddiad bryd
36 Pwyll dirgel pell yw dergyd
37 Y mainion duon dwyael
38 Yw /r/ gwiail glud golud gael
39 Mwyar ddyn ar blu mwyalch
40 No llinyn saer ar gaer galch
41 Breiniawlwedd wybren ei lun
42 Hydrawl bwyll hyd ar ael bun
43 Hualwyd kadwynwyd kof
44 Haul y dawn hoelied ynof
dd ap Gwilim