â â â Y Drych
1â â â Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
2â â â Na bai deg f'wyneb a da,
3â â â Yni syniais yn amlwg
4â â â Yn y drych; llyna un drwg!
5â â â Yna dywod o'r diwedd
6â â â Y drych nad wyf wych o wedd.
7â â â Melynu am ail Luned
8â â â Y mae'r croen, mawr yw na'm cred.
9â â â Gwydr yw'r grudd gwedy'r griddfan,
10â â â A chlais melynlliw achlân.
11â â â Odid na ellid ellyn
12â â â O'r trwyn hir; truan yw hyn.
13â â â Pand diriaid bod llygaid llon
14â â â Yn dyllau terydr deillion?
15â â â A'r ffluwch bengrech ledechwyrth
16â â â Bob dyrnaid o'i said a syrth.
17â â â Mawr arnaf, naid direidi:
18â â â Y mae'r naill, ar fy marn i,
19â â â Ai 'mod yn gwufr arddufrych,
20â â â Natur drwg, ai nad da'r drych.
21â â â Os arnaf, gwn naws hirnwyf,
22â â â Y mae'r bai, poed marw y bwyf!
23â â â Os ar y drych brych o bryd
24â â â Y bu'r bai, wb o'r bywyd!
25â â â Lleuad las gron, gwmpas graen,
26â â â Llawn o hud, llun ehedfaen,
27â â â Hadlyd liw, hudol o dlws,
28â â â Hudolion a'i hadeilws.
29â â â Breuddwyd o'r modd ebrwydda',
30â â â Bradwr oer a brawd i'r iâ,
31â â â Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas,
32â â â Fflam fo'r drych mingam iawngas!
33â â â Ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych
34â â â Os gwiw coeliaw draw i'r drych,
35â â â Onid y ferch o Wynedd;
36â â â Yno y gwys difwyno gwedd.