Edited Text: 132 - Y Drych

Y Drych

Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
Na bai deg f'wyneb a da,
Yni syniais yn amlwg
4Yn y drych; llyna un drwg!
Yna dywod o'r diwedd
Y drych nad wyf wych o wedd.

   Melynu am ail Luned
8Y mae'r croen, mawr yw na'm cred.
Gwydr yw'r grudd gwedy'r griddfan,
A chlais melynlliw achlân.
Odid na ellid ellyn
12O'r trwyn hir; truan yw hyn.
Pand diriaid bod llygaid llon
Yn dyllau terydr deillion?
A'r ffluwch bengrech ledechwyrth
16Bob dyrnaid o'i said a syrth.

   Mawr arnaf, naid direidi:
Y mae'r naill, ar fy marn i,
Ai 'mod yn gwufr arddufrych,
20Natur drwg, ai nad da'r drych.
Os arnaf, gwn naws hirnwyf,
Y mae'r bai, poed marw y bwyf!
Os ar y drych brych o bryd
24Y bu'r bai, wb o'r bywyd!

   Lleuad las gron, gwmpas graen,
Llawn o hud, llun ehedfaen,
Hadlyd liw, hudol o dlws,
28Hudolion a'i hadeilws.
Breuddwyd o'r modd ebrwydda',
Bradwr oer a brawd i'r iâ,
Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas,
32Fflam fo'r drych mingam iawngas!

   Ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych
Os gwiw coeliaw draw i'r drych,
Onid y ferch o Wynedd;
36Yno y gwŷs difwyno gwedd.