| Y Drych | |
| Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra, | |
| Na bai deg f'wyneb a da, | |
| Yni syniais yn amlwg | |
| 4 | Yn y drych; llyna un drwg! |
| Yna dywod o'r diwedd | |
| Y drych nad wyf wych o wedd. | |
| Melynu am ail Luned | |
| 8 | Y mae'r croen, mawr yw na'm cred. |
| Gwydr yw'r grudd gwedy'r griddfan, | |
| A chlais melynlliw achlân. | |
| Odid na ellid ellyn | |
| 12 | O'r trwyn hir; truan yw hyn. |
| Pand diriaid bod llygaid llon | |
| Yn dyllau terydr deillion? | |
| A'r ffluwch bengrech ledechwyrth | |
| 16 | Bob dyrnaid o'i said a syrth. |
| Mawr arnaf, naid direidi: | |
| Y mae'r naill, ar fy marn i, | |
| Ai 'mod yn gwufr arddufrych, | |
| 20 | Natur drwg, ai nad da'r drych. |
| Os arnaf, gwn naws hirnwyf, | |
| Y mae'r bai, poed marw y bwyf! | |
| Os ar y drych brych o bryd | |
| 24 | Y bu'r bai, wb o'r bywyd! |
| Lleuad las gron, gwmpas graen, | |
| Llawn o hud, llun ehedfaen, | |
| Hadlyd liw, hudol o dlws, | |
| 28 | Hudolion a'i hadeilws. |
| Breuddwyd o'r modd ebrwydda', | |
| Bradwr oer a brawd i'r iâ, | |
| Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas, | |
| 32 | Fflam fo'r drych mingam iawngas! |
| Ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych | |
| Os gwiw coeliaw draw i'r drych, | |
| Onid y ferch o Wynedd; | |
| 36 | Yno y gwŷs difwyno gwedd. |