Y Drych
Ni feddyliais (drygioni nerthol ei drais)
nad oedd fy wyneb yn deg a da,
cyn imi graffu yn glir
4 yn y drych; dyna beth drwg!
Yna dywedodd y drych o'r diwedd
nad wyf wych o wedd.
Melynu am un debyg i Luned
8 y mae'r croen, [peth] mawr yw nad yw hi'n ymddiried ynof.
Gwydr yw'r grudd wedi'r griddfan,
ac [mae] clais o liw melyn o un pen i'r llall.
Bron na ellid [gwneud] ellyn
12 o'r trwyn hir; mae hyn yn druenus.
Onid [yw hi'n] ysgeler bod llygaid llon
yn dyllau terydr deillion?
Ac mae'r mwng o wallt cyrliog afreolus
16 yn syrthio fesul dyrnaid o'i wreiddyn.
Mae anffawd drygioni yn fawr arnaf:
ar fy ngair, [y sefyllfa yw] naill
ai fy mod yn gawell frychlyd a du,
20 ([â] natur ddrwg) neu nad yw'r drych yn dda.
Os arnaf i (rwy'n gyfarwydd â natur nwyf maith)
y mae'r bai, bydded imi farw!
Os ar y drych brych ei bryd
24 y bu'r bai, dyna fywyd!
Lleuad las gron, cylch ofnadwy,
llawn o hud, ar ffurf ehedfaen,
lliw gwanllyd, tlws hudol,
28 dewiniaid a'i lluniodd.
Breuddwyd o'r natur gyflymaf,
bradwr oeraidd a brawd i'r iâ,
y gwas mwyaf ffals, a'r hyllaf, yn wirioneddol,
32 fflam fo'r drych cam ei fin a chas iawn!
Ni'm gwnaeth neb yn grychlyd fy wyneb
(os iawn coelio'r drych yno)
ond y ferch o Wynedd;
36 yno y gwyddys [sut y mae] difetha gwedd.