Nodiadau: 132 - Y Drych

Fersiwn hwylus i

GDG 105, SPDG 51

Yn y cywydd hwn y mae'r bardd yn edrych mewn drych ac yn cael cryn fraw wrth weld sut olwg sydd arno. Mae ei groen yn melynu, ei ruddiau fel gwydr, ei drwyn fel ellyn, ei lygaid fel tyllau bach mewn pren, ac mae'n colli ei wallt fesul dyrnaid—y cyfan oherwydd merch ddienw sy'n ei wrthod. Ond mae hefyd yn amau'r drych, ac yn holi ai ef ei hun ynteu'r drych sydd ar fai am yr hyn sydd o flaen ei lygaid. Mae'n dyfalu'r drych mewn modd dychanol, ond ar ddiwedd y gerdd y mae'n dechrau derbyn y sefyllfa. Os oes modd coelio'r drych, meddai, yna nid yw ei wyneb wedi ei hagru gan neb ond y 'ferch o Wynedd'.

Mae testunau llenyddol sy'n seiliedig ar ddrychau yn niferus iawn yn yr Oesoedd Canol, gw. Herbert Grabes, The Mutable Glass: mirror-imagery in titles and texts of the Middle Ages and the English Renaissance (Cambridge, 1982). Ceir sawl enghraifft o ddrychau'n tynnu sylw at henaint yr edrychwr, fel yn y gerdd hon (gw. ib., 119), ac mae themâu fel natur hudolus drychau a'r cwestiwn o'u dibynadwyedd yn codi droeon. Mae'r ddelwedd ansylweddol a geir mewn drych hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â natur perthynas yr enaid a'r corff. Yn achos y gerdd hon, dywed Helen Fulton:

[The poet's] unflattering description of himself, which he blames on the girl who rejects him, is humorous in its hyperbolic intensity, but Dafydd is making a serious comment on superficial appearances compared to inner worth. The lover assumes that if he is really ugly, then his soul is evil as well, and hopes instead that his appearance has been distorted by the mirror. He describes the mirror as a magical vehicle for deceiving people, which implies that outward and physical appearances may not be a reliable guide to spiritual worth. (DGEC 196–7)

Roedd drychau yn wrthrychau cyffredin yn Ewrop trwy gydol yr Oesoedd Canol, gw. Sabine Melchior-Bonnet, The Mirror: a history, cyf. Katharine H. Jewett (London, 2002); a Mark Pendergrast, Mirror Mirror: a history of the human love affair with reflection (New York, 2003). O fetel y gwnaed y rhan fwyaf ohonynt yng nghyfnod Dafydd, er bod rhai gwydr hefyd ar gael. Nid yw Dafydd yn manylu ar wneuthuriad ei ddrych ef, er iddo mewn cywydd arall ddisgrifio pyllau o rew fel 'gwydr ddrychau' (54.28) Mae'n amlwg hefyd mai gwydr yw'r drych a ddisgrifir mewn cywydd gan Fadog Benfras (GMBen 1) a hefyd yn 'Englynion Bardd i'w Wallt', a all fod yn waith Dafydd (171). Ni fyddai drychau'r cyfnod (o ba ddefnydd bynnag) wedi rhoi adlewyrchiad di-fai, ac mae hynny'n rhoi'r cyfle i Ddafydd awgrymu bod y drych yn ystumio ei ymddangosiad er gwaeth.

Mae'n debyg mai drych llaw a ddisgrifir yn cywydd hwn. Ceir awgrym o sut y defnyddid drychau o'r fath mewn llawysgrif addurnedig o Loegr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, sef y 'De Lisle Psalter'. Yn ail mewn cyfres o ddarluniau sy'n cynrychioli gwahanol gyfnodau oes dyn ceir darlun o ŵr ifanc sydd â chrib yn y naill law a drych crwn yn y llall (BL Arundel MS 83, 126v; atgynhyrchir y darlun mewn du a gwyn yn Herbert Grabes, The Mutable Glass: mirror-imagery in titles and texts of the Middle Ages and the English Renaissance (Cambridge, 1982), 128; ac mewn lliw ar safle 'Digital Catalogue of Illuminated Manuscripts' y Llyfrgell Brydeinig [http://www.bl.uk/catalogues/illuminatedmanuscripts/ILLUMIN.ASP?Size=mid!!!!IllID=7108]). Roedd edrych mewn drych yn ymddygiad a ystyrid yn nodweddiadol o'r ifanc, ac mae hynny'n tanlinellu siom Dafydd pan fo'r drych yn datgelu ei henaint. Ceir delwedd debyg iawn ar deilsen lawr a ganfuwyd yn abaty Ystrad Fflur, gw. J.M. Lewis, The Medieval Tiles of Wales (Cardiff, 1999), 89–90 a 194; Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 101. Fe'i dyddir gan Lord i ddiwedd y 13g. a chan Lewis i nid cyn c.1340. Nid amhosibl felly i Ddafydd weld y deilsen hon ei hun.

Cynghanedd: croes 10 ll. (28%), traws 10 ll. (28%), sain 10 ll. (28%), seindraws 1 ll. (3%), llusg 4 ll. (11%), digynghanedd ll. 1 (3%).

Cadwyd dros ddeg copi ar hugain o'r cywydd hwn. Gellir eu rhannu'n ddau brif grŵp, sef fersiwn Llyfr Gwyn Hergest (copi yn Pen 49 ac amrywiadau yn Wy 2) ar y naill law a'r fersiwn gogleddol ar y llaw arall. Ceir y fersiwn gogleddol mewn nifer helaeth o lawysgrifau, gan gynnwys H 26 (copi o'r Vetustus). Ar y cyfan y mae darlleniadau'r grŵp gogleddol yn debyg iawn (ond gw. ll. 22n).

Yn y golygiad hwn dilynwyd trefn llinellau LlGH, gan ychwanegu llau. 9–10 o'r fersiwn gogleddol (fel a wnaed yn GDG). Yr un drefn â'r golygiad hwn a geir yn y Vetustus (copi yn H 26), BL 14969, C 7, CM 23, LlGC 560, LlGC 9166, LlGC 21582 a M 212, ond bod cwpledi 27–8 a 29–30 wedi eu cyfnewid. Dilyn trefn y Vetustus wna BM 29 (sydd â chopi yn G 3) a CM 5, ond bod llau. 25–6 yn eisiau ganddynt.

Cadwyd at ddarlleniad LlGH ar y cyfan, ac eithrio yn achos llau. 3, 9–10, a 22 (gw. y nodiadau).

3. yni syniais   Mae Pen 49 o blaid yni, a gweddill y llawysgrifau o blaid oni. Derbyniwyd y ffurf hŷn yni yma (gw. WG 446). Prin yw'r dystiolaeth o blaid darlleniad GDG oni theimlais; ni cheir hwnnw ond yn BM 29. Mae cryn amrywiaeth o ran y ferf yn y gwahanol lawysgrifau. Y ffurfiau a awgrymir yw: Pen 49 (o LlGH) synnais; H 26 (o'r Vetustus), CM 5, LlGC 560, a LlGC 9166 syniais; C 7, CM 23, M 121, a Wy 2 symiais, LlGC 21582 swmiais. Ymhlith ystyron synio, synied, syniaid y mae 'chwilio, archwilio, gwylio ('n syn), craffu', a'r ystyr honno a dderbynnir yma. Gall synnu olygu 'sefyll mewn braw, brawychu, dychrynu' ac 'ystyried, rhoddi sylw (i)', a gall symio, swm(i)o olygu 'archwilio (yn feirniadol), beirniadu'. Ar y ffurfiau hyn, gw. GPC 3386, 3393 a 3394.

   Llinell ddigynghanedd.

7–8. Melynu am ail Luned / Y mae'r croen, mawr yw na'm cred   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH). Trafodir y cwpled hwn gan Peredur Lynch (2003, 138–9). Mae ll. 8 yn cynnwys naill ai n ac m berfeddgoll yn ail hanner y llinell neu r berfeddgoll yn yr hanner cyntaf, ac ymddengys fod hynny wedi arwain at ailgyfansoddi'r cwpled yn y llawysgrifau gogleddol, sydd o blaid Melynu am ail Enid / Y mae'r grudd, nid mawr y gwrid (sef darlleniad GDG). Ar Luned, arwres Chwedyl Iarlles y Ffynnawn neu Owein, gw. WCD 430 a cf. 83.16, 44, 50 a 105.5.

9–10.    Yn eisiau yn Pen 49 (o LlGH).

12. O'r trwyn hir, truan yw hyn   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH), ond mae'r llawysgrifau gogleddol o blaid O'r trwyn hir, pand truan hyn? (sef darlleniad GDG). Yn fersiwn y testun ceir naill ai cynghanedd groes ag r wreiddgoll neu gynghanedd groes o gyswllt (yr olaf yn ddamweiniol, mae'n siŵr), gw. sylwadau Peredur Lynch (2003, 122). Cynghanedd draws ag r wreiddgoll sydd yn y fersiwn gogleddol. Mae'r ffurf pand yn nodweddiadol o waith Dafydd, ac felly mae darlleniad y fersiwn gogleddol yn ddichonadwy. Ond digwydd pand yn ll. 13 isod (gw. y nodyn).

13. Pand diriaid   Dyma ffurf Pen 49 (o LlGH). Darlleniad y grŵp gogleddol yw Ond diriaid. Cf. y nodyn uchod.

15. lledechwyrth   Dyma'r unig enghraifft o'r gair nad yw'n dod o eiriadur, gw. GPC 2130. Mae'r ystyr 'ynfyd' a roddir gan y cynharaf o'r geiriaduron hynny yn bur addas, ond mae'n debyg mai 'afreolus' yw'r ergyd yma.

16. bob dyrnaid   Fel rheol, ni cheir treiglad yn dilyn pob, ond ceir rhai eithriadau, gw. TC 145–6. Mae nifer o'r llawysgrifau, gan gynnwys H 26 (o'r Vetustus), o blaid bob ddyrnaid, ac nid yw orgraff LlGH o gymorth y naill ffordd na'r llall.

said   Ystyr arferol y gair hwn yw 'soced', sef y man lle y mae llafn arf yn cysylltu â'r carn, gw. GPC 3168. Ymddengys mai dyma'r unig enghaifft o'r ystyr 'gwreiddyn y gwallt'.

18. ar fy marn i   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH), BL 14969, a LlGC 9166; ar 'y marn i a awgrymir gan H 26 (o'r Vetustus). Ceir yn fy marn i (sef darlleniad GDG) mewn nifer o'r llawysgrifau gogleddol.

19. yn gwufr arddufrych   Mae'r llawysgrifau o blaid yn (g)wifr arddifrych, ond derbynnir y diwygiad a awgrymir yn GDG 524–5. Ceir yr ymadrodd [c]wufr arddufrych hefyd yn 30.47. Daw cwufr o'r S. quiver, gw. GPC 638. Fel y nodir yn GDG 524, gellir cymharu'r defnydd o cawell yn derm difrïol am ddyn.

21. gwn naws hirnwyf   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH) yn erbyn drwy naws hirnwyf y llawysgrifau gogleddol. Gellid dadlau bod gwn naws hirnwyf yn fwy cydnaws ag arddull sangiadol Dafydd.

22. Y mae'r bai, poed marw y bwyf!   Dyma ddarlleniad BM 29, CM 5, LlGC 560 a M 212. Y darlleniad a awgrymir gan Pen 49 (o LlGH) yw fu'r bai poed yn farw y bwyf, ond o ddefnyddio'r ffurf bu, y gystrawen ddisgwyledig fyddai y bu'r bai, fel yn ll. 24 isod. Mae'r darlleniad a awgrymir gan H 26 (o'r Vetustus), C 7, CM 23, LlGC 9166, LlGC 21582, a Wy 2 (sef Y mae'r bai, yn farw y bwyf) yn bosibl, er bod ynddo m wreiddgoll. Ond mae'r ffaith fod Pen 49 (o LlGH), BM 29, CM 5, LlGC 560 a M 212 oll yn cynnwys poed o blaid darlleniad y testun.

25–6. Lleuad las gron, gwmpas graen, / Llawn o hud, llun ehedfaen   Ceir cwpled tebyg iawn sy'n disgrifio drych yn DGG2 120 (LXVII.37–8): 'Llygad glas gron gwmpas graen, / Llawn hudfawl llun ehedfaen' (Madog Benfras). Ond yn y golygiad diweddaraf o'i waith y darlleniad yw: 'Seren las gryngwmpas graen, / Sas ei rwystr, sawser ystaen' (GMBen 1.37–8). Gall fod cwpled Dafydd wedi dylanwadau ar gwpled Madog mewn rhai llawysgrifau.

26. ehedfaen  Darn o fagnetit (y mwyaf magnetig o'r mwnau) yw ehedfaen. Ceir goleuni ar berthnasedd y ddelwedd hon mewn traethawd Lladin ar fagnedau gan y Ffrancwr Petrus Peregrinus o Maricourt. Fel y nodir yn aralleiriad Silvanus P. Thompson o'r Epistola de magnete (1269), dylai ehedfaen o safon fod yn 'dense, free from flaws, and of a bluish colour like polished iron slightly tarnished', gw. S. P. Thompson, 'Petrus Peregrinus de Maricourt and his Epistola de magnete', Proceedings of the British Academy, ii (1905–6), 385.

28. a'i hadeilws   Ffurf 3 un.grff. adeilo 'llunio', gw. GPC2 39 d.g. adeiliaf. Ar y terfyniad –ws, gw. GMW 123.

29. Breuddwyd o'r modd ebrwydda'   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH) yn erbyn Bid freuddwyd byd afrwydda' y llawysgrifau gogleddol.

31. ffalstaf   Gradd eithaf yr ansoddair ffalst, ffurf amrywiol ar ffals, gw. GPC 1275.

difwynaf   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH). Gellid hefyd ddilyn y llawysgrifau gogleddol a darllen diwynaf, cf. ll. 36n.

32. mingam iawngas   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH). Darlleniad y llawysgrifau gogleddol yw mingam meingas (sef darlleniad GDG), sydd hefyd yn bosibl. Gallai iawngas olygu 'cas iawn', er mai ergyd cadarnhaol sydd i iawn fel rheol mewn cyfansoddeiriau, gw. GPC 2003–7. Gall iawn hefyd olygu 'gwir, gwirioneddol, ... addas, ... gweddus, priodol', gw. GPC 2003. Ai dweud y mae Dafydd fod y drych yn gas wrth roi adlewyrchiad anffafriol ohono, ond ei fod yn onest wrth wneud hynny?

34. gwiw   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH) yn erbyn gwir y llawysgrifau gogleddol.

36. yno   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH) yn erbyn yna y llawysgrifau gogleddol.

gwŷs difwyno   Dyma ddarlleniad Pen 49 (o LlGH), er bod gwŷs ddifwyno hefyd yn bosibl ar sail amwysedd orgraff LlGH. Mae'r llawysgrifau gogleddol o blaid gwŷs ddiwyno, cf. uchod ll. 31n. Ar dreiglo ar ôl y ffurf amhersonol gwŷs, gw. TC 229.

  Cynghanedd seindraws.