K: y drych
1 Ni thybiais ddewrdrais ddirdra
2 na bae deg fwyneb a da
3 oni symiais yn amlwg
4 yn y drych llyna vn drwg
5 yna dywad or diwedd
6 y drych nad wyf wych o wedd
7 melynv am ael enid
8 y mae r grudd ag nid mawr y gwrid
9 gwydur ywr grudd gwedi /r/ griddfann
10 a chlais melynlliw achlän
11 odid na ellid ellyn
12 or trwyn hir pand truann hynn
13 ond diriaid bod llygaid llonn
14 yn dyllau terydr deillion
15 ar fflvwch bengxretch ledechwyrth
16 bob ddyrnaid oi said a syrth
17 mawr arnaf naid diriaidi
18 y mae r naill yn y marn i
19 ai y mod yn gwifr arddifrych
20 nawr drwg ai nad ta r drych
21 os arnaf drwy naws oernwyf
22 y mae r bai poed marw y bwyf
23 os ar y drych brych o bryd
24 y bv r bai wb or bywyd
25 llevad las gronn gwmpas graen
26 llawn o hud llvn i hedfaen
29 bid breuddwyd bid afrwydda
30 bradwr yw a brawd ir ia
27 hadlid liw hudol o dlws
28 hudolionn ai hadeilws
31 ffalsa gwir ddiwynna gwas
32 fflamfor drych mingamm meingas
33 nim gwnaeth neb yn wynebgrych
34 os gwiw koeliaw draw ir drych
35 onid y ferch o Wynedd
36 yna gwyr ddiwnaw gwedd
dd ap Gwilim