Cowydd ir Drych
1 Ni thybiais dewr drais dirdra
2 na bai deg fy wyneb a da
3 oni swmiais swm amlwg
4 yn y drych llyna vn drwg
5 yna dywawd or diwedd
6 y drych nad wi wych o wedd
7 melynu am ail ennyd
8 i mae 'r grudd nid mawr y gwrid
9 gwrid y grudd gwedi gruddfan
10 a chlais melynlliw a chlan
11 odid na ellid ellyn
12 or trwyn hir pan truan hynn
13 ond diriaid mynd llygaid llonn
14 yn dyllau terydr deillion
15 ar ffluwch bengrych ledechwyrth
16 bob dyrnaid oi said a syrth
17 mawr a wnaf naid diraidi
18 i mae 'r naill yn y marn i
19 ai y mod yn gwifr arddifrych
20 nattur drwg ai nat da 'r drych
21 os arnaf drwy naws hirnwyf
22 i mae 'r bai yn farw i bwyf
23 os ar y drych brych o bryd
24 y bu r bai wb or bowyd
25 lleuad las gron gwmpas graen
26 llawn o hud fal llun ehedfaen
29 bid freiddwyd byd afrwyddaf
30 browdwr yw a brawd ir iaf
27 hadlyd liw hudol odlws
28 hudolion ai hadelws
31 ffalsa gwyr ddiwyna gwas
32 fflamdor ddrych mingam meingas
33 ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych
34 os gwir coeliaw draw ir drych
35 onid y ferch o Wynedd
36 yna i gwis ddiwynaw gwedd
Dd: ap Gwilim ai cant