â â â Y Serch Lladrad
1â â â Dysgais ddwyn cariad esgud,
2â â â Diwladaidd, lledradaidd, drud.
3â â â Gorau modd o'r geiriau mad
4â â â Gael adrodd serch goledrad.
5â â â Cyfryw nych cyfrinachwr,
6â â â Lledrad gorau gariad gwr.
7â â â Tra fuom mewn tyrfaau,
8â â â Fi a'r ddyn, ofer o ddau,
9â â â Heb neb, ddigasineb sôn,
10â â â Yn tybiaid ein atebion,
11â â â Cael herwydd ein coel hirynt
12â â â A wnaetham ogytgam gynt;
13â â â Bellach modd caethach y cair
14â â â Cyfran, drwy ogan, drigair.
15â â â Difa ar un drwgdafod
16â â â Drwy gwlm o nych, dryglam nod,
17â â â Yn lle bwrw enllib eiriau
18â â â Arnam, enw dinam, ein dau.
19â â â Trabalch oedd o chaid rhybudd
20â â â Tra gaem gyfrinach trwy gudd.
21â â â Credais, addolais i ddail
22â â â Tref f'eurddyn tra fu irddail.
23â â â Digrif ynn, fun, un ennyd
24â â â Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
25â â â Cydlwynach, difyrrach fu,
26â â â Coed olochwyd, cydlechu,
27â â â Cydfwhwman marian môr,
28â â â Cydaros mewn coed oror,
29â â â Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
30â â â Cydblethu gweddeiddblu gwydd,
31â â â Cydadrodd serch â'r ferch fain,
32â â â Cydedrych caeau didrain.
33â â â Crefft ddigrif rydd fydd i ferch
34â â â Cydgerdded coed â gordderch.
35â â â Cadw wyneb, cydowenu,
36â â â Cydchwerthin finfin a fu,
37â â â Cyd-ddigwyddaw gerllaw'r llwyn,
38â â â Cydochel pobl, cydachwyn,
39â â â Cydfod mwyn, cydyfed medd,
40â â â Cydarwain serch, cydorwedd,
41â â â Cyd-ddaly cariad celadwy
42â â â Cywir, ni manegir mwy!