Testun Golygedig: 133 - Y Serch Lladrad

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Y Serch Lladrad

Dysgais ddwyn cariad esgud,
Diwladaidd, lledradaidd, drud.
Gorau modd o'r geiriau mad
4Gael adrodd serch goledrad.
Cyfryw nych cyfrinachwr,
Lledrad gorau gariad gŵr.

   Tra fuom mewn tyrfaau,
8Fi a'r ddyn, ofer o ddau,
Heb neb, ddigasineb sôn,
Yn tybiaid ein atebion,
Cael herwydd ein coel hirynt
12A wnaetham ogytgam gynt;
Bellach modd caethach y cair
Cyfran, drwy ogan, drigair.
Difa ar un drwgdafod
16Drwy gwlm o nych, dryglam nod,
Yn lle bwrw enllib eiriau
Arnam, enw dinam, ein dau.
Trabalch oedd o chaid rhybudd
20Tra gaem gyfrinach trwy gudd.

   Credais, addolais i ddail
Tref f'eurddyn tra fu irddail.
Digrif ynn, fun, un ennyd
24Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
Cydlwynach, difyrrach fu,
Coed olochwyd, cydlechu,
Cydfwhwman marian môr,
28Cydaros mewn coed oror,
Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
Cydblethu gweddeiddblu gwŷdd,
Cydadrodd serch â'r ferch fain,
32Cydedrych caeau didrain.
Crefft ddigrif rydd fydd i ferch
Cydgerdded coed â gordderch.
Cadw wyneb, cydowenu,
36Cydchwerthin finfin a fu,
Cyd-ddigwyddaw gerllaw'r llwyn,
Cydochel pobl, cydachwyn,
Cydfod mwyn, cydyfed medd,
40Cydarwain serch, cydorwedd,
Cyd-ddaly cariad celadwy
Cywir, ni manegir mwy!