Y Serch Lladrad
Dysgais ddwyn cariad sydyn,
bonheddig, lladradaidd, beiddgar.
Y modd gorau gyda geiriau gwiw
4 yw cael adrodd am serch lladrad.
Mae blinder y sawl y caiff cyfrinach ei hymddiried ynddo yn
gyfryw
fel mai dirgel yw cariad gorau gwr.
Tra buom mewn tyrfaoedd,
8 fi a'r ferch, yn ddau ofer,
heb neb, siarad difalais,
yn drwgdybio ein hatebion,
oherwydd ein hymddiriedaeth, cawsom am ysbaid hir
12 gellwair â'n gilydd gynt;
bellach yn anos y ceir
cyfnewid, oherwydd anghlod, dri gair.
Boed distryw ar un tafod drwg
16 drwy gwlwm o nychdod, nod anffawd,
yn hytrach na'i fod yn bwrw geiriau enllibus
atom ein dau, y mae inni enw diniwed.
Balch ydoedd hwnnw pe ceid rhybudd
20 tra rhannem gyfrinach yn y dirgel.
Credais, addolais i ddail
cartref fy ngeneth hardd tra bu dail gwyrddion.
Dymunol inni, ferch, am un ennyd
24 fu dwyn ein byd dan un llwyn bedw.
Cydgofleidio, difyrrach fu,
encilfa'r goedwig, cydlechu,
cydgrwydro marian y môr,
28 cydaros ar ymyl coedwig,
cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
cydblethu plu prydferth coed,
cyd-drafod serch â'r ferch fain,
32 cydedrych dros gaeau neilltuedig.
Crefft ddymunol rydd fydd i ferch
gydgerdded coedwig â chariad.
Cadw wyneb, cydwenu,
36 cydchwerthin wefus yng ngwefus a fu,
cydsyrthio gerllaw'r llwyn,
cydosgoi pobl, cydachwyn,
cyd-fyw'n fwyn, cydyfed medd,
40 cydarddel serch, cydorwedd,
cydgynnal cariad cuddiedig
cywir, ni ddywedir mwy!