Aralleiriad: Paraphrase: 133 - Y Serch Lladrad

Y Serch Lladrad

Dysgais ddwyn cariad sydyn,
bonheddig, lladradaidd, beiddgar.
Y modd gorau gyda geiriau gwiw
4yw cael adrodd am serch lladrad.
Mae blinder y sawl y caiff cyfrinach ei hymddiried ynddo yn gyfryw
fel mai dirgel yw cariad gorau gŵr.

Tra buom mewn tyrfaoedd,
8fi a'r ferch, yn ddau ofer,
heb neb, siarad difalais,
yn drwgdybio ein hatebion,
oherwydd ein hymddiriedaeth, cawsom am ysbaid hir
12gellwair â'n gilydd gynt;
bellach yn anos y ceir
cyfnewid, oherwydd anghlod, dri gair.
Boed distryw ar un tafod drwg
16drwy gwlwm o nychdod, nod anffawd,
yn hytrach na'i fod yn bwrw geiriau enllibus
atom ein dau, y mae inni enw diniwed.
Balch ydoedd hwnnw pe ceid rhybudd
20tra rhannem gyfrinach yn y dirgel.

Credais, addolais i ddail
cartref fy ngeneth hardd tra bu dail gwyrddion.
Dymunol inni, ferch, am un ennyd
24fu dwyn ein byd dan un llwyn bedw.
Cydgofleidio, difyrrach fu,
encilfa'r goedwig, cydlechu,
cydgrwydro marian y môr,
28cydaros ar ymyl coedwig,
cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
cydblethu plu prydferth coed,
cyd-drafod serch â'r ferch fain,
32cydedrych dros gaeau neilltuedig.
Crefft ddymunol rydd fydd i ferch
gydgerdded coedwig â chariad.
Cadw wyneb, cydwenu,
36cydchwerthin wefus yng ngwefus a fu,
cydsyrthio gerllaw'r llwyn,
cydosgoi pobl, cydachwyn,
cyd-fyw'n fwyn, cydyfed medd,
40cydarddel serch, cydorwedd,
cydgynnal cariad cuddiedig
cywir, ni ddywedir mwy!