| Y Serch Lladrad | |
| Dysgais ddwyn cariad sydyn, | |
| bonheddig, lladradaidd, beiddgar. | |
| Y modd gorau gyda geiriau gwiw | |
| 4 | yw cael adrodd am serch lladrad. |
| Mae blinder y sawl y caiff cyfrinach ei hymddiried ynddo yn gyfryw | |
| fel mai dirgel yw cariad gorau gŵr. | |
| Tra buom mewn tyrfaoedd, | |
| 8 | fi a'r ferch, yn ddau ofer, |
| heb neb, siarad difalais, | |
| yn drwgdybio ein hatebion, | |
| oherwydd ein hymddiriedaeth, cawsom am ysbaid hir | |
| 12 | gellwair â'n gilydd gynt; |
| bellach yn anos y ceir | |
| cyfnewid, oherwydd anghlod, dri gair. | |
| Boed distryw ar un tafod drwg | |
| 16 | drwy gwlwm o nychdod, nod anffawd, |
| yn hytrach na'i fod yn bwrw geiriau enllibus | |
| atom ein dau, y mae inni enw diniwed. | |
| Balch ydoedd hwnnw pe ceid rhybudd | |
| 20 | tra rhannem gyfrinach yn y dirgel. |
| Credais, addolais i ddail | |
| cartref fy ngeneth hardd tra bu dail gwyrddion. | |
| Dymunol inni, ferch, am un ennyd | |
| 24 | fu dwyn ein byd dan un llwyn bedw. |
| Cydgofleidio, difyrrach fu, | |
| encilfa'r goedwig, cydlechu, | |
| cydgrwydro marian y môr, | |
| 28 | cydaros ar ymyl coedwig, |
| cydblannu bedw, gwaith dedwydd, | |
| cydblethu plu prydferth coed, | |
| cyd-drafod serch â'r ferch fain, | |
| 32 | cydedrych dros gaeau neilltuedig. |
| Crefft ddymunol rydd fydd i ferch | |
| gydgerdded coedwig â chariad. | |
| Cadw wyneb, cydwenu, | |
| 36 | cydchwerthin wefus yng ngwefus a fu, |
| cydsyrthio gerllaw'r llwyn, | |
| cydosgoi pobl, cydachwyn, | |
| cyd-fyw'n fwyn, cydyfed medd, | |
| 40 | cydarddel serch, cydorwedd, |
| cydgynnal cariad cuddiedig | |
| cywir, ni ddywedir mwy! | |