Nodiadau: 133 - Y Serch Lladrad

GDG 74

Dathliad yw'r cywydd hwn o'r serch diamod a diofalon a brofodd Dafydd gynt â'i gariad dan frig y goedwig ymhell o olwg y gymdeithas, a, tra oedd y gyfrinach yn ddiogel, hyd yn oed yng nghanol pobl. Ond tarfwyd ar y gwynfyd hwnnw gan i'r gyfrinach gael ei bradychu gan eiriau rhyw dafod drwg. Pwysleisir undod y cariadon a'r argraff o gytgord gan y cymeriad geiriol Cyd– yn llau 25–42, a dichon fod yma amwysedd bwriadol gan mai un o ystyron eraill cyd yw 'cyfathrach rywiol'.

Ceir yr un syniad o ladrata serch a'i gadw ynghudd yng nghywydd y 'Serch Dirgel' (78), sy'n cychwyn: Myfi y sydd, deunydd dig, / Leidr serch dirgeledig, ond mai nythu yn nwfn ei galon a wnaeth serch Dafydd yn y gerdd honno. Mae ei gyfoeswr, Gruffudd ab Adda ap Dafydd, hefyd yn ei ddisgrifio ei hun fel lleidr serch: Lleidr wyf, mae clwyf i'm clymu, / Lleidr merch deg, nid lleidr march du (DGG LXVI.19–20). Lledrad gorau gariad gŵr, medd Dafydd (ll. 6); Lledrad gariad a'm gorwyf, medd Gruffudd, Lleidryn, boen efyn, bun wyf (DGG LXVI.31–2). Mae serch dirgel yn thema ganolog yn llenyddiaeth serch cwrtais yr Oesoedd Canol, ac fel y sylwodd Chotzen, Recherches, 265, mae'r enllibiwr dienw y cyfeirir ato yn llau 15–20 yn dwyn i gof athrodwyr y trwbadwriaid a'r trwferiaid. Serch hynny, yma ac yn y cywydd 'Caer Rhag Cenfigen' (122) — gweler y nodyn cefndir a DGIA 224 — gallasai'r thema honno godi'n annibynnol ar y traddodiad Ewropeaidd.

Ceir aralleiriad a thrafodaeth fer gan Alan Llwyd yn HGDG 140–2. Gw. hefyd ddehongliad Helen Fulton, DGEC 161–2, 163, a Saunders Lewis, BHLlG 80–1.

Cadwyd tri fersiwn sylfaenol o'r cywydd yn y llsgrau a'r un yw trefn y llinellau, ond bod 27–8 a 33–4 yn eisiau yng nghopi cynnar Pen 54 (c. 1480) a 31–2 yn eisiau yn fersiwn Llyfr Wiliam Mathew. Cynrychiolir testun LlWM gan Pen 49, Ll 6 a thair o lsgrau Llywelyn Siôn, sef Ll 47, Ll 134 a LlH. Deillia H 26 ac un o ddau destun G 3 (209v) o'r Vetustus, a chofnodwyd rhai amrywiadau o'r un ffynhonnell yn Pen 49 ynghyd ag amrywiadau o ffynhonnell wahanol. Y Vetustus hefyd yw ffynhonnell anuniongyrchol Wy 2 a'r copïau sy'n deillio ohono.

Mae C 5 yn rhannu'r un cwpled coll â fersiwn LlWM ac mae'r darlleniadau'n cyfateb yn aml, ond dro arall mae'n cyfateb i draddodiad y Vetustus. I'r traddodiad hwnnw y perthyn CM 5, BM 29, M 146 a LlGC 560. Mae Pen 76 a M 161, sy'n debyg iawn i'w gilydd ond fod cwpled ychwanegol annilys yn Pen 76, 38+, yn cyfateb ar dro i'r Vetustus, dro arall i LlWM, a cheir ynddynt rai darlleniadau sy'n wahanol i'r ddau. Mae 31–2 a 33–4 o chwith yn y ddau gopi. Cyfetyb BM 23 ar y cyfan i fersiwn LlWM (ceir yr un cwpled coll), ond mae'n cynnwys rhai darlleniadau unigryw. Mae Pen 54 yn wahanol i'r ddau fersiwn arall mewn sawl man, ac fe welir bod ambell un o'r darlleniadau hyn yn rhagori, e.e. 13, tra bo eraill yn ymddangos yn llwgr, e.e. 14, 22. Yn enwedig tua diwedd y cywydd, mae rhai o ddarlleniadau fersiwn LlWM a Pen 54 yn tueddu i gefnogi ei gilydd yn erbyn traddodiad y Vetustus.

Cynghanedd: croes 11 ll. (26%), traws 11 ll. (26%), sain 18 ll. (43%), llusg 2 l. (5%).

1. dwyn   Diau fod y ferf yn amwys: 'teimlo, profi' (felly y'i rhestrir yn GPC 1130), cymh. ll. 40 Cydarwain serch, ll. 41 Cyd–ddaly cariad; a 'lladrata'.

2. diwladaidd   'Bonheddig' fel rheol, ond gwedda'r ystyr 'hy, hunanhyderus' yn ogystal.

drud   Yr ystyr 'beiddgar, dewr' sy'n gweddu orau yma, cymh. fab da drudfaith am Fadog Benfras yn 19.25. Am ystyron eraill y gair yng nghanu Dafydd, gw. 47.4n.

5–6.    Ceir sawl dehongliad gwahanol o'r llinellau hyn, gw. David Johnston, 'Nodiadau ar Waith Dafydd ap Gwilym', B xxxii (1985), 81–2. Ei awgrym ef yw 'bod poendod (neu wendid) y dyn sy'n caru'n lledrad yn debyg i boendod dyn sy'n cadw cyfrinach, sef ei fod yn ysu am ddweud wrth bobl eraill (cymh. ll. 3–4)'. Trafodir ganddo atalnodiad ac ystyr llau 1–10. Fe welir bod dehongliad y golygiad hwn fymryn yn wahanol ar sail ergyd y gair cyfrinachwr. Ystyr yr holl enghreifftiau cynnar yn GPC 718 yw 'un sy'n gyfrannog o gyfrinach(au), person yr ymddiriedir iddo y materion mwyaf preifat, cyfaill mynwesol a dibynadwy, cydymaith ... confidant ...'. Diogelach, yn ôl Dafydd, yw peidio ag ymddiried cyfrinachau serch i gyfaill o'r fath.

6.    Ymadrodd enwol. Ymddengys mai gorau gariad oedd darlleniad y Vetustus a LlWM, ond dilynodd GDG Pen 54 gore kariad a rydd gynghanedd sain gadwynog; ni threiglir ychwaith yn Ll 6 (gary kariad), C 5, M 161, Pen 76. Gellir treiglo neu beidio yn dilyn gradd eithaf yr ansoddair, gw. TC 52–3.

11.    Ymddengys mai dyma oedd darlleniad LlWM, ac mai Cael oherwydd coel hirynt oedd fersiwn y Vetustus. Pen 54 Koel herwr yw kayl hirynt / a gawssam o gytgam gynt. Sylwer ar y dilyniant Cael ... y cair ... yn llau 11–14.

12. gogytgam   Fersiwn LlWM; mae Pen 54 yn tueddu i'w gefnogi. Go– + cytgam 'cellwair, chwarae'. Ni restrir y ffurf yn GPC ond cymh. e.e. cydowenu yn ll. 35. Dilynodd GDG fersiwn y Vetustus, sef ymgytgam.

13. modd caethach   Darlleniad Pen 54. Aneglur yw ystyr mal / fal caethach y ddau fersiwn arall.

14. drwy ogan   Ymddengys mai llygriad o'r darlleniad hwn yw dorogan Pen 54.

15–18.    Fe all fod Gruffudd Gryg yn adleisio'r llinellau hyn yn ei ail gywydd ymryson, 25.21–4 Dryglam oer, drwy gwlm eiriau, / I'r dyn ohonom ein dau, / A difa ar ei dafawd / Lle bai, a newidiai wawd. Cyhudda Dafydd yr un drwg ei dafod o'i enllibio ef a'i gariad y tu ôl i'w cefnau, a dyna un o gyhuddiadau Gruffudd am Ddafydd, ib. 5–6 Da i'm gŵydd, ysgwydd esgud, / A drwg i'm absen a drud.

20.    Pen 54 Tra geid y kariad trwy gudd.

21. credais   Mae Pen 54 a fersiwn LlWM yn gytûn yma. Gwedda'r ystyr gydag addolais, ac fe all fod arlliw crefyddol i golochwyd yn ll. 26 yn ogystal. Cerddais fersiwn y Vetustus a geir yn GDG.

addolais    Pen 54 vddoleis. Rhestrir uddoli yn ffurf amrywiol ar addoli (dan ddylanwad udd 'arglwydd'?) yn GPC2 76. Mae'r enghraifft hon yn hŷn na'r enghraifft gynharaf a ddyfynnir, sy'n perthyn i'r 16g.

22.    Pen 54 Tra vv aurddyn trefirddail.

23. ynn, fun   Mae Pen 54 a fersiwn LlWM yn gytûn yma eto. Dilynodd GDG fersiwn y Vetustus Digrif fu, fun... .

24. dan un bedwlwyn   Anodd dewis rhyngddo a darlleniad unigryw Pen 54 dan vrig bedlwyn, lle mae'r gynghanedd sain fymryn yn wannach. Cymh. e.e. 106.17–18 Bodlon wyf is bedwlwyn ir, / Eto fun, yti feinir ('Gwawd Morfudd').

25. cydlwynach   Darlleniad fersiwn LlWM. Fel y noda Thomas Parry, GDG tt. 503–4, dengys yr holl amrywiadau a geir yn y llsgrau eraill i'r ffurf greu cryn ddryswch i'r copïwyr, ac fe all mai ymgais i osgoi'r anhawster yw darlleniad Pen 54 kyd gyvrinach vach a vv. Dyma'r unig enghraifft a restrir yn GPC 664, lle y rhoddir yr ystyr 'cytgam caru ynghyd, cydanwesu' (yr un bôn a welir yn gorllwyn, cynllwyn etc.).

26. golochwyd    Yr ystyr 'encilfa, cilfach neilltuedig' sy'n gweddu, fel yn 75.59 Ni lecha yng ngolychwyd (am yr ysgyfarnog). Ond yng ngoleuni ll. 21 a'r math o ddelweddaeth grefyddol a geir mewn cywydd megis 'Offeren y Llwyn' (39) ac yn 33.17 mau grefydd grill, dichon fod yma awgrym o'r ystyr wreiddiol, 'gweddi, addoliad', cymh. 148.63–4 Amser a osoded i fwyd / Ac amser i olochwyd.

29–30.    Cytuna fersiwn LlWM â Pen 54. Vetustus Cydgadw ... / Cydblannu ... . Gan mai trosiad am ddail yw plu'r coed — cymh. 41.13–14 A than dy ben gobennydd / O fanblu, gweddeiddblu gwŷdd — go brin y soniai Dafydd am eu plannu.

33. crefft ddigrif rydd   Dyma ddarlleniad fersiynau LlWM a'r Vetustus; mae'r cwpled yn eisiau yn Pen 54. Ymddengys mai ystumiad ohono yw darlleniad unigryw Ll 6 krefft ddigerydd, sef yr hyn a geir yn GDG. Cymh. 38.45–6 Crefft ddigrif oedd, myn y crair, / Cusanu dyn cysonair. Dichon fod rhyddid y grefft hon yn gwrthgyferbynnu â modd caethach ll. 13 uchod.

34.    Cymh. 143.12 Ag oerddyn ni chydgerddai.

37. cyd–ddigwyddaw   Vetustus cydogwyddaw.

41. celadwy   Vetustus taladwy. Cymh. 86.19 ei chariad taladwy.

42. cywir    Pen 54 yn wir.