1 dysgais ddwyn kariad esgvd
2 diwladaidd lledradaidd drvd
3 Gore modd or geirie mad
4 Cael adrodd serch goledrad
5 Kyvriw nych kyvrinach wr
6 lledrad gore gariad gwr
7 Tra vum mewn tyrveav
8 mi ar ddyn over o ddav
9 heb neb digysymed son
10 yn tybio yn atebion
11 kael herrwydd yn koel hirynt
12 anaetham ym gytgam gynt
13 Bellach val kaeth i kair
14 kytgam drwy ogan drigair
15 [98v] diva or vn dryc v davod
16 drwy gwlm nych dryclam nod
17 yn lle bwrw enllib eiriav
18 Arnam enw dinam yn dav
19 tra balch oedd ochaid rybyudd
20 tra gem gyvrinach trwy gvdd
21 kerddais addolais i ddail
22 tre evrddyn tra vu irddairl
23 digri vun vn ennyd
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byd
25 kyd lawenach digrivach vu
26 kyd olochwyd kyd lechu
27 kyd vyhwman marian mor
28 kyd aros mewn koed oror
29 kyd blannv bedw gwaith dedwydd
30 kyd blethu gweddeiddblu gwydd
33 krefft ddigri rydd vydd i verch
34 kyd gerdded koed ai gordderch
35 kyd wyneb kyd owenv
36 kyd chwerthin vin vin a vu
37 kyd ddigwyddaw garllaw r llwyn
38 kyd ochel pobl kyd echwyn
39 kyd vod mwyn kyd y ved medd
40 kyd arwain serch kyd orwedd
41 kyd ddaly kariad keladwy
42 kywir mi ninekeir mwy
dd ap Gwilym ai kant