i ferch i ddangos fal i vysse'n i charu
1 Dysgais ddwyn cariad esgud
2 diwladaidd lledradaidd drud
3 gorau modd a geiriau mad
4 gael adrodd serch goledrad
5 cyfruw nych cyfrinachwr
6 lledrad gorau gariad gwr
7 [130v] tra fuom mewn tyrfaau
8 fi ar ddyn ofer o ddau
9 heb neb ddigassineb son
10 yn tybied yn attebion
11 cael o herwydd coel hirynt
12 a wnaetham ym gytgam gynt
13 bellach mal caethach i cair
14 gyfran drwy ogan drigair
15 difa ar un drwg dafod
16 drwy gwlwm nych a dryglam nod
17 yn lle bwrw enllib eiriau
18 arnam enw dinam yn dau
19 trabalch oedd o chaid rhybydd
20 tra gaem gyfrinach trwy gudd
21 cerddais addolais i ddail
22 tref eurddyn tra fu irddail
23 digri mi a'm gwen ennyd
24 dwyn dan un bedwlwyn yn byd
25 cyflownach ddifyrrach fu
26 cyd olochwyd cyd lechu
27 cyd fyhwman marian mor
28 cyd aros mewn coed oror
29 cyd gadw bedw gwaith dedwydd
30 cyd blannu gweddeiddgnu gwydd
31 cyd adrodd serch ar ferch fain
32 cyd edrych caeau didrain
33 crefft ddigrif rydd fydd i ferch
34 cyd gerdded coed a gordderch
35 cyd wyneb cyd awenu
36 cyd chwerthin finfin a fu
37 cyd ogwyddaw garllaw'r llwyn
38 cyd ochel pobl cyd achwyn
39 cydfod mwyn cydyfed medd
40 cyd arwain serch cyd orwedd
41 cyd ddal cariad taliadwy
42 cowir ni manegir mwy
dd ap Gwilim