1 Dysgais ddwyn kariad esgvd
2 diwladaidd lladradaidd drvd
3 gorav modd or geiriav mad
4 kael adrodd serch goladrad
5 kyvriw nych kyvrinachwr
6 lladrad grorav kariad gwr
7 tre vuam mewn tyrvayav
8 vi ar ddyn over oddav
9 heb neb ddigassineb son
10 yn tybio ynattebion
11 [67] Kael herwydd ynkoel hirynt
12 a wnnaytham ymgytkam gynt
13 bellach val kaythach i kair
14 kyvran drwy ogan drigair
15 diva ar vn dryc davod
16 drwy gwlwm nych dryclam nod
17 yn lle bwrw enllib eirav
18 arnam ennw dinnam yn dav
19 trabalch oedd ochaid hrybydd
20 tra ge em gyvrinach trwy gvydd
21 kerddais addolais i ddail
22 tref vy evrddyn tra vu irddail
23 digri yn vun vn ennyd
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byd
25 kyd bwy iach divyrach vu
26 koed olochwyd kid lechv
27 kyd vyhwman marian mor
28 kyd aros mewn koed oror
29 kyd blannv bedw gwaith dedwydd
30 kyd blethv gweddeiddblv gwydd
33 krefft ddigrif hrydd vydd i verch
34 kyd gerdded koed ai gordderch
35 kyd wynneb kyd owenv
36 kyd chwerthin vinvin a vu
37 kid ddigwyddaw garllawr llwyn
38 kid ochel pobyl kid achwyn
39 kydvod mwyn kyd yved medd
40 kyd arwain serch kyd w orwedd
41 kyd ddal kariad keladwy
42 kywir ni mynegir mwy
dd vab glm aI kant