kowydd merch
1 dysgais ddwyn cariad esgvd
2 diwladaidd lledradaith drvd
3 gorav modd or geiriav mad
4 gael adrodd serch goledrad
5 [475] kyfryw nych kyfrinachwr
6 lledrad gorav gariad gwr
7 tra fyom mewn tyrfayav
8 fi ar ddyn ofer o ddav
9 heb neb ddigassineb son
10 yn tybied yn attebion
11 cael o herwydd coel hirynt
12 awnaetham ymngytgam gynt
13 bellach mal caethach i cair
14 gyfran drwy ogan drigair
15 difa ar vn drwg dafod
16 drwy gwlm nych a dryglam nod
17 yn lle i bwrw enllib eiriav
18 arnam enw dinam yn dav
19 trabalch oedd o chaid rhybydd
20 tra gem gyfrinach trwy gydd
21 kerddais addolais i ddail
22 tref evrddyn tra fv irddail
23 digri fvr fvn vn enyd
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byd
25 kyflownach difyrach fv
26 kyd olochwyd kyd lechv
27 kyd gwhwfan marian mor
28 kyd aros mewn coed oror
29 kyd gadw bedw gwaith dedwydd
30 cyd blannv gweddeiddblv gwydd
31 cyd adrodd serch ar ferch fain
32 cyd edrych caeav didrain
33 crefft ddigri rydd fydd i ferch
34 cyd gerdded coed a gordderch
35 cyd wyneb cyd aweny
36 cyd chwerthin finfin a fy
37 cyd ogwyddaw garllaw /r/ llwyn
38 cyd ochel pobl cyd achwyn
39 cydfod mwyn cyd yfed medd
40 cyd arwain serch cyd orwedd
41 cyd ddal cariad taliadwy
42 cowir nis manegir mwy
dd ap gwylym ai kant