1 Dyscais ddwyn cariad escud
2 diwladaidd lladradaidd drud.
3 Gorau modd o'r geiriau mâd
4 gael adrodd serch goledrad
5 Cyfryw nych cyfrinach-wr
6 lledrad gorau gariad gwr
7 Tra fuom mewn tyrfâau
8 fi a'r ddyn ofer o ddau
9 Heb neb digasineb sôn
10 yn tybied ein attebion
11 Caer o herwydd coel hirynt,
12 a wnaetham ymgydcam gynt.
13 bellach mal caethach y cair
14 gyfran drwy ogan dri-gair.
15 Difa ar vn drwg dafod
16 drwy gwlm nych a dryglam nôd
17 yn lle bwrw enllib eiriau
18 arnam enw dinam ein dau.
19 Tra balch oedd o chaid rhybyudd
20 tra gaem gyfrinach trwy gudd
21 Cerddais addolais i ddail
22 tref eurddyn tra fu ir-ddail
23 Digrif fu fun vn ennyd
24 dwyn dan lwyn bedw-lwyn ein byd
25 Cyd fyrrach lawnach ddyfyrrach
fu,
26 Cyd olochwyd cyd lechu
27 Cyd fyhwman marian môr
28 Cyd aros mewn coed oror
29 Cyd gadw bedw gwaith dedwydd
30 Cyd blannu gweddeiddblu gwydd
31 Cyd adrodd serch â'r ferch fain
32 Cyd edrych caeau didrain.
33 Crefft ddigrif rydd fydd i ferch
34 Cyd gerdded coed â gordderch
35 [210r] Cyd wyneb cyd-awenu
36 Cyd chwerthin fin-fin a fu
37 Cyd ogwyddaw ger llaw'r llwyn
38 Cyd ochel pobl cyd achwyn
39 Cydfod mwyn cyd yfed medd
40 Cyd arwain serch cyd orwedd
41 Cyd ddal cariad taladwy
42 Cywyr ni manegir mwy.
Dd' ap Gwilym.