G 3, 209v–210r   
   Tud: 1
   
 
1    Dyscais ddwyn cariad escud
2    diwladaidd lladradaidd drud.
3    Gorau modd o'r geiriau mâd
4    gael adrodd serch goledrad
5    Cyfryw nych cyfrinach-wr
6    lledrad gorau gariad gŵr
7    Tra fuom mewn tyrfâau
8    fi a'r ddyn ofer o ddau
9    Heb neb digasineb sôn
10    yn tybied ein attebion
11    Caer o herwydd coel hirynt,
12    a wnaetham ymgydcam gynt.
13    bellach mal caethach y cair
14    gyfran drwy ogan dri-gair.
15    Difa ar vn drwg dafod
16    drwy gwlm nych a dryglam nôd
17    yn lle bwrw enllib eiriau
18    arnam enw dinam ein dau.
19    Tra balch oedd o chaid rhybyudd
20    tra gaem gyfrinach trwy gudd
21    Cerddais addolais i ddail
22    tref eurddyn tra fu ir-ddail
23    Digrif fu fun vn ennyd
24    dwyn dan lwyn bedw-lwyn ein byd
25    Cyd fyrrach lawnach ddyfyrrach fu,
26    Cyd olochwyd cyd lechu
27    Cyd fyhwman marian môr
28    Cyd aros mewn coed oror
29    Cyd gadw bedw gwaith dedwydd
30    Cyd blannu gweddeiddblu gwydd
31    Cyd adrodd serch â'r ferch fain
32    Cyd edrych caeau didrain.
33    Crefft ddigrif rydd fydd i ferch
34    Cyd gerdded coed â gordderch
   Tud: 2
35    [210r] Cyd wyneb cyd-awenu
36    Cyd chwerthin fin-fin a fu
37    Cyd ogwyddaw ger llaw'r llwyn
38    Cyd ochel pobl cyd achwyn
39    Cydfod mwyn cyd yfed medd
40    Cyd arwain serch cyd orwedd
41    Cyd ddal cariad taladwy
42    Cywyr ni manegir mwy.
 
    Dd' ap Gwilym.