{kowydd kymdeithas a merch}
1 Dyscais ddwyn cariad esgud
2 diwladaidd lladradaidd drud
3 gorau modd or geiriae mad
4 gael adrodd serch goladrad
5 [312] cyfryw nych cyfrinachwr
6 lladrad gorau gariad gwr
7 tra vvom mewn tyrvau
8 vi ar ddyn over oddau
9 heb neb ddigasineb son
10 yn tybiaid yn atebion
11 cael oherwydd coel hiyrnt
12 a wnaetham ymgytgam gynt
13 belach mal coethach y cair
14 gyfran drwy ogan drigair
15 diva ar vn drwgdavod
16 drwy gwlm nych a dryglam nod
17 yn lle bwrw enllib eiriau
18 arnam enw dinam yn dau
19 trabalch oedd o chaid rhybudd
20 tra gaem gyfrinach trwy gudd
21 cerddais addolais iddail
22 tre f'eurddyn tra vv irddail
23 digrif vv vvn vn enyd
24 dwyn dan vn bedwlwyn ynbyd
25 cyd lownach ddigrifach fu
26 coed ylochwyd cyd lechu
27 cyd vwhwman marian mor
28 cyd aros mewn coed oror
29 cydgadw bedw gwaith dedwydd
30 cydblannv gweddeiddblu gwydd
31 cyd adrodd serch ar verch vain
32 cydedrych caye didrain
33 creft ddigryf rydd vydd i verch
34 cyd gerdded coed a gordderch
35 cydwyneb cyd awenv
36 cyd chwerthin vinvin a vu
37 cydogwyddaw gaerllaw'r llwyn
38 cydochel pobl cyd achwyn
39 cydvod mwyn cyd yved medd
40 cydarwain serch cydorwedd
41 cydddal cariad taladwy
42 cywir ni mynegir mwy
Dauid ap Gwilim