kywydd yr adrodd
1 Dysgais ddwyn kariad esgyd
2 diwladaidd lledradaidd dryd
3 goray modd or gairiay mad
4 gael adrodd serch goledrad
5 [45] kyfryw nych kyfrinachwr
6 lledrad gary kariad gwr
7 tra vyom mewn tyrvayay
8 viar ddyn ofer odday
9 heb neb ddigasineb son
10 yn tybiaid yn atebion
11 kael herwydd yn koel hirynt
12 awnaytham ogytgam gynt
13 bellach modd kaythach ykair
14 kyfran drwy ogan drygair
15 difa ar vn dryc dafod
16 drwy gwlm o nych dryglam nod
17 yn lle bwrw enllib airiay
18 arnam enw dinam yn day
19 tra balch oedd tra gaid rybydd
20 trya gaem gyfrinach trwy gydd
21 kredais addolais y ddail
22 tref ayr ddyn tra vy irddail
23 digrif yn vyn vn enyd
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byd
25 kyd lwynach difyrach vy
26 koed olochwyd kyd lechy
27 kyd vy hwman maran mor
28 kyd aros mewn koed oror
29 kyd blany bedw gwaith dedwydd
30 kyd blethy gweddaidd bly gwydd
33 krefft ddigerydd vydd yverch
34 kyd gerdded koed ay gordderch
35 kadw wyneb kyd oweny
36 kyd chwerthin vin vin avy
37 kyd ddygwyddaw gyr llawr llwyn
38 kyd ochel pobl kyd achwyn
39 kydvod mwyn kyd yfed medd
40 kyd arwain serch kyd orwedd
41 kyd ddaly kariad keladwy
42 kywir ny manegir mwy
dd' ap Glm' ai kant