kowydd merch
1 dysgais ddwyn kariad esgvd
2 diwladaid lledradaidd drvd
3 gorav modd or geiriav mad
4 gael adrodd serch goledrad
5 kyfryw nych kyfrinachwr
6 lledrad gore gariad gwr
7 tra fvom mewn tyrfav
8 fi ar ddyn ofer o ddav
9 heb neb ddi gasineb son
10 yn tybiaid yn atebion
11 kael o herwydd koel hirynt
12 awnaetham ym gytgam gynt
13 [374] bellach mal kaethach i kair
14 gyfran drwy ogan drygair
15 difa ar vn dryg dafod
16 drwy gwlwm nych dryglam nod
17 yn lle bwrw enllib eiriav
18 aram enw dinam yn dav
19 trabalch oedd o chaid rhybydd
20 tra gaem gyfrinach drwy gvdd
21 kerddais addolais i ddail
22 tref evrddyn tra fv irddail
23 digri fv bvn vn enyd
24 dwyn dan ybedlwyn yn byd
25 kyd lownach digrifach fv
26 koed i lochwyd kyd lechv
27 kyd fohwman marian mor
28 kyd aros mewn koed oror
29 kyd gadw bedw gwaith dedwydd
30 kyd blanv geddaiddblv gwydd
31 kyd adrodd serch yferch fain
32 kyd edrych kavav didrain
33 krefft ddigri rydd fydd i ferch
34 kyd gerdded koed a gordderch
35 kyd wyneb kyd awenv
36 kyd chwerthin finfin a fv
37 kyd ogwyddaw gerllaw r llwyn
38 kyd ochel pobl kyd achwyn
39 kydfod mwyn kyd yfed medd
40 kyd arwain serch kyd orwedd
41 kyd ddal kariad keladwy
42 kowir ni mynegir mwy
dafydd ap gwilym
Nodiadau
Ceir llau 1-12 ar d. 371 yn ogystal, heb ddim
amrywiadau.