{k: i ferch o waith yr vn gwr}
1 dysgais ddwyn kariad esgyd
2 diwladaidd lladradaidd dryd
3 gore modd er geirie mad
4 gael adrodd serch goledrad
5 kyfriw nych kyfrinachwr
6 lladrad gore kariad gwr
7 tra vym meawn tyrfay
8 fi ar ddyn over o dday
9 heb neb digasineb son
10 yn tybiaid yn atebion
11 kael herwydd yn koel hirynt
12 a wnaytham ym gytgam gynt
13 bellach val kaythach i kair
14 gyfran drwy ochan dryigair
15 difa ar yn drwc dafod
16 drwy gwlwm nych dryglam nod
17 yn lle bwrw enllib eiriay
18 arnam enw dinam yn day
19 trabalch oni chaid rybydd
20 tra gawn ym ddiddan trwy gydd
21 kerddais addolais ir ddail
22 tre eyrddyn tra vy irddail
23 digri vy hyn ym enyd
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byd
25 kyflownach diwidiach fy
26 koed alochwyd ke kyd lechy
27 kyd vohwman marian mor
28 kyd aros mewn koed oror
29 [185] kyd blanny bedw gwaith dedwydd
30 kyd blethy gweddeiddbly gwydd
33 krefft ddigri rydd vydd i verch
34 kyd gerdded koed a gordderch
31 kyd adrodd serch ir verch vain
32 kyd edrych kaye digrain
35 kyd wyneb kyd yweny
36 kyd chwerthin vinvin a vy
37 kyd ddigwyddaw garllawr llwyn
38 kyd ochel pobyl kyd achwyn
39 kydvod mwyn kyd yved medd
40 kyd arwain serch kyd orwedd
41 kyd ddal kariad tyladwy
42 kowir ni mynegir mwy
dd ap gwilim ai kant