1 Dysgais ddwyn kariat esgut
2 diwladeidd lledradeidd drut
3 gorev modd or geiriev mat
4 gael adrodd serch goletrat
5 kyfryw nych kyfrinachwr
6 lledrat gorev gariat gwr
7 tra vuom mewn tyrvaev
8 vi ar ddyn over o ddev
9 heb neb ddigasineb sôn
10 yn tybyeit yn atebion
11 [31r] koel herwydd
yn kael hirynt
12 a wnaetham o gytkam gynt
13 bellach modd kaethach y keir
14 kyfran drwy ogan drygeir
15 diva ar vn drygdavot
16 drwy gwlm o nych dryclam not
17 yn lle bwrw enllib eiriev
18 arnam enw dinam yn dev
19 trabalch oedd try geit rybudd
20 try gaem gyfrinach trwy gudd
21 kredeis addoleis y ddeil
22 tref eurddyn tra vu irddeil
23 digrif ynn vun vn ennyt
24 dwyn dan vn bedlwyn yn byt
25 kyt lwynach divyrrach vu
26 koet olochwyt kyt lechu
27 kyt vyhwman marian mor
28 kyt aros mewn koet oror
29 kyt blannv bedw gweith dedwydd
30 kyt blethu gweddeiddblu gwydd
33 [31v] krefft ddigrif rydd vydd y verch
34 kyt gerddet koet a gordderch
35 kadw wyneb kyt wenv
36 kyt chwerthin vinvin a vu
37 kyt ddygwyddaw ger llaw /r/ llwyn
38 kyt ochel pell kyt achwyn
39 kydvod mwyn kyt yved medd
40 kyt arwein serch kyt orwedd
41 kyt ddaly karyat kelyadwy
42 kywir ny mynegir mwy
davydd ap gwilym
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust et per alium
11 kael oherwydd koel
12 ymgytkam
23 vu
25 lownach
27 gyhwfan
29 gadw
30 + kyd adrodd serch ar ferch fain
kyd edrych kaieu didrain
37 ogwyddaw
38 pobl