â â â Garlant o Blu Paun
1â â â Boreddydd, bu wawr eiddun,
2â â â Y bu ym gyfarfod â bun,
3â â â Yn ungof serch, iawn angerdd,
4â â â Yn ael coed yn eilio cerdd.
5â â â Erchais i'm bun o'm unoed
6â â â Blethu cainc o blith y coed,
7â â â Yn gyrn heirdd, yn goron hoyw,
8â â â Yn erlant ym, yn irloyw.
9â â â Bid ogylch serch, be digardd,
10â â â A bun atebodd oe bardd:
11â â â 'Pur yw dy lais, parod lef,
12â â â Pa na wyddud, paun addef,
13â â â Mae truan, anniddan oedd,
14â â â Noethi bedw'n eithaf bydoedd.
15â â â Nid oes ar fedw, nid edwyn,
16â â â O'r dail a fai wiw eu dwyn.
17â â â Ni weaf innau wiail,
18â â â Nid gwiw o'r llwyn dwyn y dail.'
19â â â Ym y rhoes yn lliosawg
20â â â Y rhodd a gadwaf y rhawg,
21â â â Gerlant cystal ag eurlen,
22â â â O wisg paun i wasgu pen.
23â â â Blaen talaith, bliant hyloyw,
24â â â Blodau hardd o blu da hoyw.
25â â â Glân wead gloywon wiail,
26â â â Gloÿnnau Duw, gleiniau dail,
27â â â Teÿrnaidd waith, twrn oedd wiw,
28â â â Tyrrau, troellau fal trilliw.
29â â â Llugyrn clyr, llygaid gwyr gwynt,
30â â â Lluniau lleuadau ydynt.
31â â â Da yw o chair, dioer na chyll,
32â â â Drychau o ffeiriau Fferyll.
33â â â Gwn ras hir, gwen a roes hon,
34â â â Gerlant oe phrydydd geirlon.
35â â â Hoff loywgamp oedd ei phlygu,
36â â â A'i phleth o esgyll a phlu.
37â â â Rhodd serch meinferch oe mwynfardd,
38â â â Rhoes Duw ar hon, rhestri hardd,
39â â â Bob gwaith a mwyniaith manaur,
40â â â Bob lliw fal ar bebyll aur.