| Garlant o Blu Paun | |
| Boreddydd, bu wawr eiddun, | |
| Y bu ym gyfarfod â bun, | |
| Yn ungof serch, iawn angerdd, | |
| 4 | Yn ael coed yn eilio cerdd. |
| Erchais i'm bun o'm unoed | |
| Blethu cainc o blith y coed, | |
| Yn gyrn heirdd, yn goron hoyw, | |
| 8 | Yn erlant ym, yn irloyw. |
| Bid ogylch serch, be digardd, | |
| A bun atebodd oe bardd: | |
| 'Pur yw dy lais, parod lef, | |
| 12 | Pa na wyddud, paun addef, |
| Mae truan, anniddan oedd, | |
| Noethi bedw'n eithaf bydoedd. | |
| Nid oes ar fedw, nid edwyn, | |
| 16 | O'r dail a fai wiw eu dwyn. |
| Ni weaf innau wiail, | |
| Nid gwiw o'r llwyn dwyn y dail.' | |
| Ym y rhoes yn lliosawg | |
| 20 | Y rhodd a gadwaf y rhawg, |
| Gerlant cystal ag eurlen, | |
| O wisg paun i wasgu pen. | |
| Blaen talaith, bliant hyloyw, | |
| 24 | Blodau hardd o blu da hoyw. |
| Glân wead gloywon wiail, | |
| Gloÿnnau Duw, gleiniau dail, | |
| Teÿrnaidd waith, twrn oedd wiw, | |
| 28 | Tyrrau, troellau fal trilliw. |
| Llugyrn clŷr, llygaid gwŷr gwynt, | |
| Lluniau lleuadau ydynt. | |
| Da yw o chair, dioer na chyll, | |
| 32 | Drychau o ffeiriau Fferyll. |
| Gwn ras hir, gwen a roes hon, | |
| Gerlant oe phrydydd geirlon. | |
| Hoff loywgamp oedd ei phlygu, | |
| 36 | A'i phleth o esgyll a phlu. |
| Rhodd serch meinferch oe mwynfardd, | |
| Rhoes Duw ar hon, rhestri hardd, | |
| Bob gwaith a mwyniaith manaur, | |
| 40 | Bob lliw fal ar bebyll aur. |