Edited Text: 134 - Garlant o Blu Paun

Print friendly version

Garlant o Blu Paun

Boreddydd, bu wawr eiddun,
Y bu ym gyfarfod â bun,
Yn ungof serch, iawn angerdd,
4Yn ael coed yn eilio cerdd.
Erchais i'm bun o'm unoed
Blethu cainc o blith y coed,
Yn gyrn heirdd, yn goron hoyw,
8Yn erlant ym, yn irloyw.
Bid ogylch serch, be digardd,
A bun atebodd oe bardd:

   'Pur yw dy lais, parod lef,
12Pa na wyddud, paun addef,
Mae truan, anniddan oedd,
Noethi bedw'n eithaf bydoedd.
Nid oes ar fedw, nid edwyn,
16O'r dail a fai wiw eu dwyn.
Ni weaf innau wiail,
Nid gwiw o'r llwyn dwyn y dail.'

   Ym y rhoes yn lliosawg
20Y rhodd a gadwaf y rhawg,
Gerlant cystal ag eurlen,
O wisg paun i wasgu pen.
Blaen talaith, bliant hyloyw,
24Blodau hardd o blu da hoyw.
Glân wead gloywon wiail,
Gloÿnnau Duw, gleiniau dail,
Teÿrnaidd waith, twrn oedd wiw,
28Tyrrau, troellau fal trilliw.
Llugyrn clŷr, llygaid gwŷr gwynt,
Lluniau lleuadau ydynt.
Da yw o chair, dioer na chyll,
32Drychau o ffeiriau Fferyll.
Gwn ras hir, gwen a roes hon,
Gerlant oe phrydydd geirlon.
Hoff loywgamp oedd ei phlygu,
36A'i phleth o esgyll a phlu.
Rhodd serch meinferch oe mwynfardd,
Rhoes Duw ar hon, rhestri hardd,
Bob gwaith a mwyniaith manaur,
40Bob lliw fal ar bebyll aur.