Paraphrase: 134 - Garlant o Blu Paun

Garlant o Blu Paun

Un bore, roedd yn wawr ddymunol,
digwyddais gwrdd â merch,
â'm meddwl ar serch yn unig, celfyddyd dda,
4ar ben uchaf coedwig yn llunio cerdd.
Gofynnais i'm merch o'r un oed â mi
i blethu cangen o blith y coed,
yn gyrn heirdd, yn goron ysblennydd,
8garlant imi yn ir a gloyw.
Bydded yn gylch o serch, pe bai'n ddi-fai,
a'r ferch a atebodd ei bardd:

'Mae dy lais yn bur, dy leferydd yn rhwydd,
12oni wyddost, cyffes paun,
mai trueni, diflas fyddai
dinoethi bedw mewn mannau anghysbell?
Nid oes ar fedw, nid yw'n eu hadnabod,
16ddail y byddai'n weddus eu cymryd.
Ni weaf frigau,
nid yw'n iawn mynd â dail o'r llwyn.'

Rhoddodd imi yn niferus
20y rhodd a gadwaf am byth —
garlant cystal â llen euraidd
o blu paun i wasgu pen.
Rhan flaen coron o liain disglair iawn,
24blodau hardd o blu hyfryd pefr,
gwead golygus o frigau gloyw,
glöynnod byw, gemau fel dail,
crefftwaith brenhinol, camp gain ydoedd,
28cytserau a chylchoedd fel llysiau'r drindod,
llusernau gwybed, llygaid dynion y gwynt,
maent yr un ffurf â lleuadau.
Da yw os ceir, yn sicr ni ddiflanna,
32y drychau o nwyddau Fferyll.
Rwy'n adnabod gras hirhoedlog, merch hardd a roddodd [y rhodd] hon,
garlant i'w phrydydd cadarn ei eiriau.
Gorchwyl disglair, canmoladwy oedd ei phlygu,
36a'i phlethiad o adenydd a phlu.
Rhodd serch merch fain i'w bardd addfwyn,
rhoddodd Duw ar hon, rhesi hardd,
bob addurnwaith a iaith gywrain mewn aur coeth,
40bob lliw fel ar fantell aur.