Nodiadau: 134 - Garlant o Blu Paun

GDG 32

Yn y cywydd hwn mae Dafydd yn adrodd fel y bu iddo ofyn i ferch lunio garlant neu goronbleth o frigau iddo wisgo am ei ben. Mae hithau'n ei ddwrdio am ystyried tynnu brigau oddi ar goed ac yn gwrthod eu gwau iddo. Yn lle hynny, rydym yn clywed iddi lunio penwisg i'r bardd o blu paun wedi'u plethu, rhodd y mae ef yn ymfalchïo ynddi ac yn ei dyfalu'n ganmoliaethus. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â'r cywydd 'Yr Het Fedw' lle mae Dafydd yn dathlu'r benwisg gain a blethodd Morfudd iddo o ddail a brigau'r fedwen, heb weld unrhyw fai mewn dinoethi coed. Cymharer hefyd y cywydd ansicr ei awduraeth 'Penwisg Merch' (rhif 156).

Roedd gwisgo plu a thlysau mewn penwisgoedd yn ffasiynol yn yr Oesoedd Canol. Rhagtal, sef rhwymyn am y talcen a ddisgrifir yn y cywydd 'Penwisg Merch' a hwnnw wedi ei addurno â thlysau ac enamel ac â meini gwerthfawr (156.3–6, 18–22). Penwisg tebyg a ddisgrifiir yn y cywydd 'Merch yn Ymbincio' (138.1–4).

Ceir darlun o benwisg o'r math hwn gan Leonardo da Vinci yn ei bortread La Belle Ferronniere [http://cartelfr.louvre.fr/cartelfr/visite?srv=car_not_frame7idNotice=13835] sydd yn Amgueddfa'r Louvre ym Mharis, a gwelir rhagtal tebyg and diaddurn ganddo yn ei ddarlun Dame à l'hermine [http://www.czartoryski.org/lady.htm] yn Amgueddfa Czartoryski yn Kracow. Nid anhebyg ychwaith yw'r penwisg yn y Portread o Wraig mewn Melyn gan Alesso Baldovinetti [c.1426–1499] [http://www.nationalgallery.org.uk/cgi–bin/WebObjects.dll/Collection Publisher.woa/wa/work?workNumber=NG758] sydd nawr yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain. Fel y dengys y paentiadau hyn, roedd y math hwn o benwisg yn boblogaidd yn yr Eidal yn y bymthegfed ganrif, a rhoddwyd yr enw 'lenza' arno.

Y gorchudd mwyaf cyffredin am y pen yn y bedwaredd ganrif ar ddeg oedd y cwfwl a oedd yn debyg i lawes hir o ddefnydd a dynnwyd dros y pen, ond daeth yn fwy ac yn fwy arferol erbyn y bymthegfed ganrif i rolio'r cwfwl yn ôl i fyny am y pen gan ffurfio cap neu dorch agored. Arfer cyffredin hefyd oedd addurno penwisgoedd o'r fath â rhibanau a brodwaith a defnyddio tlysau i osod plu paun ac estrys ynghlwm ynddynt. Gwelwyd y penwisg hwn hefyd yn yr Eidal, lle'i gelwid yn ghirlanda neu grillanda. Merched yn bennaf a wisgai'r dilledyn hwn, ond ni chai pob merch eu haddurno i'r un graddau:

Garlands of flowers or grass are worn by the young innocent beauties of whom the poets sing. Sometimes the ghirlanda is covered with gems or with feathers. A decree published in Siena in 1412 forbade all embroidery and pearls, except for a grillanda on the head worth a maximum of 25 gold florins. [Herald, Jaqueline, Renaissance Dress in Italy 1400–1500, London, 1981, t. 218.]

Mae'n bosib iawn mai garlant tebyg a ddisgrifir yma, a hwnnw wedi ei blethu'n gain o blu amryliw'r paun (er efallai y gallai'r pwyslais ar 'flaen talaith' awgrymu rhywbeth tebycach i'r rhagtal neu'r 'lenza').

Y mae rhyw swyn yn perthyn i'r paun hyd heddiw; mae'n aderyn trawiadol o hardd ac yn yr Oesoedd Canol dyma oedd aderyn drutaf y byd. Roedd felly'n aderyn a welid gan deuluoedd cyfoethog a bonheddig yn unig, a naturiol oedd iddo dyfu'n symbol o'r uchelwriaeth hwn (gw. e.e. GIG V. 35–6).

Mae Dafydd yn cyfeirio at ysblander plu'r paun wrth ddelweddu coed deiliog mis Mai — 'Paun asgellas dinastai' (32.39). Ond y mae hefyd yn disgrifio Madog Benfras fel 'paun da'i ddadl' (20.24) yn ei farwnad iddo. Yn ddiddorol iawn, mae Madog yn sôn mewn modd tebyg iawn am Ddafydd hefyd yn ei farwnad yntau iddo, ac yn ei ddisgrifio fel 'paun cerdd' a 'paun inseilwawd', ac meddai ymhellach amdano, 'Dioer o baun, dihareb oedd' (GDG II). Mae'n siŵr bod y cymariaethau hyn â'r paun yn fodd o gyfleu bonedd ynghyd ag ysblander geiriol y ddau fardd.

Aderyn gwrywaidd yw'r paun, ac mae'n arddangos ei blu lliwgar a thrawiadol i ddenu sylw adar benywaidd ac i gystadlu ag adar gwrywaidd eraill. O ganlyniad i'r ymffrostio hyn daeth y Minnesingers i gysylltu'r paun â balchder trahaus. Tybed nad oes elfen o ddireidi yma wrth i'r ferch hon wrthod creu penwisg o ddail bedw i Ddafydd, fel y gwnaeth Morfudd yn ddirwgnach, ond yn hytrach yn gosod penwisg o blu'r aderyn balch ac ymffrostgar hwn am ei ben, ar ffurf garlant a fyddai'n gweddu'n well i ferch brydferth (ond cofiwn i Ddafydd ei hun sôn fod 'gwallt ei chwaer ar ei ben' – 137.30). Ond y mae Dafydd yn dyfalu ei rodd â balchder a gorfoledd diamwys, ac yn ei disgrifio fel cylch o serch gan ddwyn atgof o gae neu dorch crwn a oedd yn gyffredin fel rhodd serch.

Y Vetustus oedd ffynhonnell pob testun o'r cywydd hwn sydd wedi goroesi. Ceir copïau uniongyrchol yn H 26, Pen 49 a G 3, a rhai anuniongyrchol yn LlGC 560 a Ll 14. Gan nad oes ond un fersiwn sylfaenol ar gael, mae'n bosibl bod y testun yn ddiffygiol neu'n wallus mewn mannau.

Cynghanedd: croes 18 ll. (45%); traws 11 ll. (27.5%); sain 8 ll. (20%); llusg 2 l. (5%); un llinell ddigynghanedd (2.5%).

2. gyfarfod   Dilynwyd G 3 yn GDG, gyfwrdd (cymh. LlGC 560 gyffwrdd), ond hwn yw darlleniad H 26 a Pen 49 (cymh. 68.4). Mae'n bosibl mai ymgais i arbed sillaf oedd gyfwrdd, ond mae'n ddiangen gan fod bu ym yn cywasgu'n un sillaf (cymh. 150.21).

3. angerdd.   Rhoddir 'priodoledd, cynneddf, dawn arbennig, hynodrwydd, celfyddyd' yn ystyron y gair yn GPC gan nodi fod y gair yn tarddu o'r rhagddodiad cadarnhaol 'an' + 'cerdd', sef crefft.

9. be.    dyma sydd ym mhob copi ac nid bei fel a geir yn GDG.

10. oe.    Mae hyn yn seiliedig ar oi H 26; ceir iw yn Pen 49 a G 3, ac i (= i'i?) yn LlGC 560. Gw. 150.14n.

12. paun addef   – darlleniad Pen 49, H 26 a G 3. Gwan yw'r dystiolaeth dros poen GDG. Roedd yn arferiad tyngu llw ar y paun yn yr Oesoedd Canol. Oherwydd ansawdd dygn cnawd y paun nid oedd cig yr aderyn yn pydru'n rhwydd, a chredid felly, gan rai megis Sant Awgwstin, nad oedd modd llygru'r aderyn a'i fod felly'n greadur sanctaidd. Roedd hefyd wedi magu cysylltiadau â'r ffenics chwedlonol, a daeth y ddau aderyn yn symbol o atgyfodi a bywyd tragwyddol. Credai Cristnogion cynnar hefyd fod y siapau llygaid ar blu'r paun yn cynrychioli'r Fam Eglwys a oedd yn gweld pob peth. Tyfodd y paun felly'n symbol sanctaidd.

13. mae    Gw. 32.1n.

16.    r wreiddgoll.

19.    Llinell ddigynghanedd, fel y'i ceir yn Pen 49. Mae'n ymddangos i Jaspar Gryffyth geisio cywiro'r testun yn G 3 (ac yn y Vetustus ei hun?) gydag 'I'm y rhoes yn hir–oessawg' ac i LlGC 560 ei ddilyn: 'ymy rhoes bydd bydd hiroesawg'. Ond ceisiodd Thomas Wiliems yn H 26 greu cynghanedd yn y llinell wreiddiol trwy ddarllen 'llioesawg'. Dilynodd Parry LlGC 560 ond heb yr ail bydd.

lliosawg.   Cyfeirir at nifer y plu yn y garlant.

22. wisg...wasgu.   Defnyddir y cyfuniad hwn yn 'Penwisg Merch': Yn gwasgu, combr yw'r gwisgiad (156.14).

28. tyrrau   Mae'r ystyr ffigurol 'cytser' yn gweddu yma, gw. GPC 3660. Hawdd deall sut y byddai adlewyrchedd plu'r paun, ynghyd â'r siapiau 'llygaid' gloyw, yn dwyn atgof o gytser. Rheswm tebyg, mae'n siŵr, a arweiniodd Johann Bauer i roi'r enw Pavo ('paun') ar gytser yn yr ail ganrif ar bymtheg.

troellau fal trilliw.   Mae darlleniad GDG, tröellau trilliw, yn dilyn G 3, ond ceir fal yn H 26 a Pen 49. Gellir cymryd troellau yn ddeusill, gw. GPC 3612 a chymh. 'Yw troellau ei gruddiau grym' (Gruffudd Gryg, DGG2 131). Enw blodyn yw trilliw yma, sef y Viola tricolor, neu'r pansi gwyllt, sy'n cynnwys y lliwiau melyn, porffor a phiwswyn.

29. gwynt    — Dilynwyd Pen 49 yn GDG, gynt, ond awgryma tystiolaeth H 26, G 3 a LlGC 560 mai hwn oedd darlleniad y Vetustus. Tybed ai math o löyn byw a ddisgrifir yma? Ceir siapau llygaid ar adenydd rhai glöynnod byw, gan gynnwys glöyn byw y peunog. Mae'n bosib mai disgrifio'r plu'n pefrio yn y gwynt fel adenydd glöynnod byw y mae, a'r rheini hefyd efallai'n dwyn arnynt siapau llygaid.

30. lleuadau.    Yn ôl cred Fwslemaidd roedd y paun yn cynrychioli'r cosmos gyda llun yr haul a'r lleuad ar ei blu.

32. Fferyll.    Gw. 135.56n. Yn ogystal â'r cysylltiad cyffredin â meddyginiaeth ac alcemyddiaeth, deellir yr enw hwn hefyd fel cyfeiriad at 'grefftwr celfydd, gof haearn, metelydd', gw. GPC 1284.

39. mwyniaith   Dengys H 26, G3 a LlGC 560 mai hwn oedd darlleniad y Vetustus, ond yn GDG dilynwyd Pen 49, mwynwaith, er gwaetha'r ailadrodd. Cymerir mai trosiad yw hwn sy'n cyffelybu addurn y plu i ysgrifen.

40. pebyll    Ffurf unigol yw hon, ac mae'n debyg mai 'mantell' yw'r ystyr, gw. GPC 2662—3 a chymh. 111.9 a 113. 24.