{ko ir ferch a roese wisg pen iddo fo}
1 Boreuddydd bu wawr eiddvn
2 y vu'm gyvarvod a bvn
3 yn vngof serch iawn angerdd
4 yn ael coed yn eilw cerdd
5 erchais i'm bvn o'm vnoed
6 blethu cainc o blith y coed
7 yn gyrn heirdd yn goron hoyw
8 yn erlunt ym yn irloyw
9 [411] bid ogylch serch bedigardd
10 a bvn atebodd oi bardd
11 pur yw dy lais parod lef
12 pam na wyddyd pavn addef
13 mae truan aniddan oedd
14 noethi bedw'n eithaf bydoedd
15 nid oes ar vedw nid edwyn
16 or dail a vai wiw i dwyn
17 ni weuaf mav wiail
18 nid gwiw or llwyn dwyn y dail
19 ymy rhoes yn llioesawg
20 y rhodd a gadwaf yrrhawg
21 gerlant cystal ar eurlen
22 o wisg pavn i wasgu pen
23 blaen talaith bliant hyloyw
24 blodau hardd o blu da hoyw
25 glan weuad gloywion wiail
26 gloynnav Duw glenniau y dail
27 teyrnaidd waith twrn oedd wiw
28 tyrau troellau val trilliw
29 lloicyrn llyr llygaid gwyr gwynt
30 llvniau lleuadau ydynt
31 da yw o chair dioer na chyll
32 drychau o ferriau feryll
33 gwn ras hir gwen a roes hon
34 gerlant oi phrydydd geirlon
35 hof loywgamp oedd i phlygu
36 ai phleth o esgill a phlu
37 rhodd serch meinverch oi mwyn vardd
38 rhoes Duw ar honn rhestri hardd
39 bob gwaith a mwyniaith manavr
40 bob lliw val ar bebyll avr
Dauid ap Gwilim