1 Boreu-ddydd bu wawr eiddun
2 y bu im gyfwrdd â bun.
3 yn vngof serch iawn angerdd
4 yn ael coed yn eilio cerdd
5 Erchais i'm bun o'm vn-oed
6 blethu caingc o blith y coed,
7 yn gyrn heirdd yn goron hoew
8 yn arlant i'm yn ir-loew
9 Bid ogylch serch be digardd
10 a bun atebodd iw bardd
11 Pur yw dy lais parod lef
12 pan na wyddit paun addef
13 Mae truan an niddan oedd
14 noethi bedw 'n eitha bydoedd
15 Nid oes ar fedw nid edwyn
16 or dail a fai wiw eu dwyn
17 Ni weuaf inneu wiail
18 nid gwiw or llwyn dwyn y dail
19 I'm y rhoes yn hir-oessawg
20 y rhodd a gadwaf y rhawg
21 Garlant cystal ag eur-lenn
22 o wisc paun i wascu penn
23 Blaen talaith bliant hyloiw
24 blodau hardd o blu du hoiw.
25 Glan wead gloewon wiail
26 gloe[yn]nau Duw gleiniau dail
27 [209] Teyrnaidd waith twrn oedd wiw
28 tyrau, troellau trilliw
29 Llugym clyr llygaid gwyr gwynt
30 lluniau lleuadau ydynt
31 Da yw o chair dioer na chyll
32 drychau o fferiau fferyll
33 Gwn ras hir gwen a roes honn
34 garlant iw phrydydd geir loñ
35 Hoff loiw-gamp oedd ei phlygu
36 ai phleth o escyll a phlu.
37 Rhodd serch mein-ferch yw mwynfardd
38 Rhoes Duw ar hon rhestrau hardd
39 Bob gwaith a mwyn-iaith manaur
40 bob lliw fel ar bebyll aur.
Dafydd ap Gwilym.