1 Boreddydd bv wawr eiddvn
2 y bv 'm gyfarfod a bvn
3 Yn iawngof serch iawn angerdd
4 Yn ael coed yn eilio cerdd
5 Erchais i'm bvn om vnoed
6 blethv caingc o blith y coed
7 Yn gyrn heirdd yn goron hoyw
8 Yn erlant im yn irloyw
9 Bid ogylch serch be digardd
10 a bvn attebodd iw bardd
11 Pvr yw dy lais parod lef
12 pan na wyddyd pavn addef
13 Mai trvan anniddan oedd
14 noethi bedw'n eitha bydoedd
15 [152v] Nid oes ar fedw nid edwyn
16 Or dail a fai wiw i dwyn
17 Ni weaf inne wiail
18 Nid gwiw or llwyn dwyn y dail
19 I mi rhoes yn lliosawg
20 Y rhodd a gadwaf yrhawg
21 Gerlant kystal ac evrlen
22 O wisc pavn i wascv pen
23 Blaen talaith bliant hyloyw
24 Blodav hardd o blv da hoyw
25 Glân wead gloywon wiail
26 Gloynnav Duw gleiniav dail
27 Teynaidd waith twrn oedd wiw
28 Tyrav troellav fal trilliw
29 Llvgyrn Clyr llygaid gwyr gynt
30 llvniev lleuadav ydynt
31 Da yw o chair dioer na chyll
32 Drychav o ffeiriav fferyll
33 Gwn ras hir gwen a roes hon
34 Gerlant iw phrydydd geirlon
35 hoff loywgamp oedd i phlygv
36 [153r] Ai phleth o esgyll a phlv
37 Rhodd serch meinferch i'w mwynfardd
38 Rhoes Duw ar hon rhestri hardd
39 Bob gwaith a mwynwaith manavr
40 Bob lliw fel ar bebyll avr
Da' ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
17 inne[u]
28 troellav (fal) trilliw