â â â Telynores Twyll
1â â â Caeau, silltaerynnau serch,
2â â â A gwawd y tafawd, hoywferch,
3â â â Ac aur, gwn dy ddiheuraw,
4â â â I'th lys a roddais i'th law.
5â â â Anun, wych loywfun, a chlwyf,
6â â â A deigrnych, drem adegrnwyf,
7â â â Fy ngelynion, holion hy,
8â â â Fedel aml, fu dâl ymy.
9â â â A gwe deg, liw'r gawad ôd,
10â â â O sirig a rois erod;
11â â â Gweywyr serch gwaeth no gwyr saint
12â â â A gefais drwy ddigofaint.
13â â â Yn iarlles eiry un orlliw
14â â â Y'th alwn, gwedd memrwn gwiw;
15â â â Yn herlod salw y'm galwud
16â â â I'm gwydd drwy waradwydd drud.
17â â â Gwiwddyn wyd, Gwaeddan ydwyf,
18â â â Gwaethwaeth newidwriaeth nwyf.
19â â â Gyrraist fi yn un gerrynt
20â â â Gwaeddan am ei gapan gynt,
21â â â O hud a rhyw symud rhus
22â â â A lledrith yn dwyllodrus.
23â â â O ddyad twyll ydd wyd di,
24â â â Anfoes aml, yn fy somi;
25â â â Dyn gannaid, doniog annwyd,
26â â â Ddifai dwf o Ddyfed wyd.
27â â â Nid un ysgol hudoliaeth
28â â â Na gwarae twyll, cymwyll caeth,
29â â â Na hud Menw, na hoed mynych,
30â â â Na brad ar wyr, na brwydr wych,
31â â â Uthr afael, wyth arofun,
32â â â Eithr dy hud a'th air dy hun.
33â â â Anaml y cedwy unoed,
34â â â Ail rhyfel Llwyd fab Cel Coed.
35â â â Tri milwr, try ym olud,
36â â â A wyddyn' cyn no hyn hud:
37â â â Cad brofiad, ceidw ei brifenw,
38â â â Cyntaf, addfwynaf oedd Fenw;
39â â â A'r ail fydd, dydd da ddyall,
40â â â Eiddilig Gor, Wyddel call;
41â â â Trydydd oedd, ger muroedd Môn,
42â â â Math, rhwy eurfath, rhi Arfon.
43â â â Cerddaist ti ar benceirddiaeth
44â â â Cyfnod gwyl, cyfnewid gaeth;
45â â â Da dlyy, wen gymhenbwyll,
46â â â Delyn ariant, tant y twyll.
47â â â Henw yt fydd, tra fo dydd dyn:
48â â â Hudoles yr Hoyw Delyn;
49â â â Enwog y'th wnair, gair gyrddbwyll,
50â â â Armes, telynores twyll.
51â â â Y delyn a adeilwyd
52â â â O radd nwyf, aur o ddyn wyd;
53â â â Mae erni nadd o radd rus
54â â â Ac ysgwthr celg ac esgus;
55â â â Ei chwr y sydd, nid gwydd gwyll,
56â â â O ffyrf gelfyddyd Fferyll;
57â â â Ei llorf a'm pair yn llwyrfarw
58â â â O hud gwir ac o hoed garw;
59â â â Twyll yw ebillion honno
60â â â A thruth a gweniaith a thro.
61â â â Deulafn o aur a dalant
62â â â Y dwylo tau yn daly tant;
63â â â Wi o'r wengerdd, wawr wingoeth,
64â â â A fedry di o fydr doeth!
65â â â Trech yw crefft, meddir, hir hud,
66â â â Ne gwylan befr, no golud.
67â â â Cymer, brad nifer, bryd Nyf,
68â â â Gannwyll gwlad Gamber, gennyf,
69â â â Lawrodd ffawd, lariaidd ei pharch,
70â â â Le yr wyl, liw yr alarch.