Telynores Twyll
Gwregysau, cadwynau serch,
a cherdd y tafod, ferch hardd,
ac aur, gwn sut i'th ddyhuddo,
4 a roddais yn dy law yn dy lys.
Anhunedd, eneth loyw wych, a chlwyf,
a nychdod dagreuol, llygaid awchus eu chwant,
fy ngelynion, gofynion hy,
8 fintai luosog, fu'n dâl imi.
A gwisg deg, liw'r gawod eira,
o sidan a roddais er dy fwyn;
gwewyr serch gwaeth nag eiddo gwyr sanctaidd
12 a gefais drwy ddigofaint.
Yn iarlles ddisglair fel eira
y'th alwn, tebyg i femrwn gwiw;
yn gnaf salw y'm galwet
16 yn fy ngwydd drwy waradwydd tost.
Merch wiw wyt, Gwaeddan ydwyf,
gwaeth o hyd yw masnach serch.
Gyrraist fi ar yr un llwybr
20 â Gwaeddan am ei fantell gynt,
drwy hud a rhyw newid dychrynllyd
a lledrith yn dwyllodrus.
Ar ffurf twyll yr wyt ti,
24 anfoesgarwch aml, yn fy hudo;
merch ddisglair, ddawnus ei hanian,
berffaith ei llun o Ddyfed wyt.
Nid un ysgol hudoliaeth
28 na chwarae twyll, crybwylliad dygn,
na hud Menw, na hiraeth mynych,
na brad ar wyr, na brwydr wych,
gafael arswydus, ymosodiad ffyrnig,
32 ond dy hud a'th air dy hun.
Anaml y byddi'n cadw un oed,
yn debyg i helynt Llwyd fab Cel Coed.
'Roedd tri milwr, daw golud i'm rhan,
36 a wyddai hud cyn hyn:
profwr brwydr, ceidw ei gyfenw,
y cyntaf a'r addfwynaf oedd Menw;
a'r ail fydd, dydd o ddealltwriaeth dda,
40 Eiddilig Gor, Wyddel doeth;
y trydydd, ger muriau Môn,
oedd Math, pennaeth rhagorol, arglwydd Arfon.
Cerddaist ti ar hyd penceirddiaeth
44 ar gyfnod gwyl, masnach ddygn;
da yr haeddi, eneth bwyllog ei hanian,
delyn arian, tant y twyll.
Bydd enw arnat tra bo dyn byw:
48 Hudoles y Delyn Hardd;
yn enwog y'th wneir, gair sicr,
darogan [yw hyn], telynores twyll.
Lluniwyd y delyn
52 o deilyngdod serch, merch wych wyt ti;
mae arni naddiad o raddfa rhwystr
a cherfiad dichell ac esgus;
ei hymyl sydd, nid coed heb ei drin,
56 o gelfyddyd rymus Fferyll;
mae ei phost yn fy ngwneud yn gwbl farw
drwy hud gwirioneddol a hiraeth garw;
twyll yw ebillion honno
60 a chelwydd a gweniaith a dichell.
Mae dy ddwylo di yn dal tant
yn werth dau lafn o aur;
dyna gân deg, arglwyddes goeth fel gwin,
64 a fedri di o fydr doeth!
Trech yw crefft, meddir, hudoliaeth hir,
liw gwylan ddisglair, na golud.
Cymer gennyf, brad llu, gwedd Nyf,
68 cannwyll gwlad Camber,
anrheg ffawd, lednais ei pharch,
le [anrhydeddus yn] yr wyl, liw'r alarch.