Nodiadau: 135 - Telynores Twyll

GDG 84

Y mae twyll a hudoliaeth merch yn thema ganolog yng nghywyddau Dafydd, ond yma fe'i datblygir ymhellach. Gellir rhannu'r cywydd yn dair rhan. Yn gyntaf, cwyna Dafydd iddo anrhegu'r ferch â cherddi a rhoddion drudfawr heb dderbyn dim yn ôl ganddi ond anhunedd a gwewyr serch. Dyma thema gyfarwydd arall, fel y gwelir, er enghraifft, yn y cywydd 'Siom' (107). Yna fe'i cyhudda o arfer hud a lledrith i'w dwyllo, gan arddangos ei ddysg drwy gyfeirio at nifer o gymderiadau o'r chwedlau ac o Drioedd Ynys Prydain y mae a wnelont â hudoliaeth. Ychydig a wyddom am ddau o'r rhain, sef Gwaeddan ac Eiddilig Gor, ond diau y buasai eu hanes a'u harwyddocâd yn hysbys i gynulleidfa'r bardd. Ychwanegir y ferch at driawd o hudolion adnabyddus gan fynnu ei bod yn haeddu telyn arian yn wobr am ei hudoliaeth hithau. Bedyddir hi'n 'Hudoles yr Hoyw Delyn', a phroffwydir y bydd yr un mor enwog â hwythau fel telynores twyll.

Yn olaf, wedi cyflwyno delwedd y delyn, ceir trosiad estynedig celfydd tebyg i'r hyn a geir mewn cywydd megis 'Caer Rhag Cenfigen' (122). Trosiad ydyw sy'n corffori deuoliaeth serch ym mhrofiad Dafydd: er mor hardd yw'r offeryn ac er mor ddengar swynol yw'r tannau dan fysedd y ferch, twyll a hudoliaeth yw gwneuthuriad y delyn ei hunan. Ac oherwydd ei rhagoriaeth yn canu'r delyn hudol hon — dichon i'r ddelwedd godi o'r ffaith ei bod mewn gwirionedd yn delynores fedrus — mynnir ei bod yn haeddu lle anrhydeddus ar ddydd gŵyl, a hynny, mae'n debyg, fel pencerdd telyn. Efallai mai ar gyfer yr ŵyl arbennig honno y lluniwyd y cywydd i'w ddatgan yn llys y ferch. Ni ellir ond dyfalu at bwy y cyfeirir, ond y mae'r sôn am foli'r ferch yn ei llys a'i bod yn hanu o Ddyfed (25–6) yn tueddu i ategu awgrym R. Geraint Gruffydd (1985, 174) mai Dyddgu, merch o dde Ceredigion, yw gwrthrych y cywydd hwn. Dyfed a ŵyr mae difyw, / Difai ddysg, a Dafydd yw, meddir yn un o'r cywyddau i Ddyddgu (89.17–18). Cred Bromwich (SPDG 59), fodd bynnag, fod naws y gerdd yn awgrymu mai un o gywyddau Morfudd ydyw. Trafodir y dull 'alegorïol' o ddelweddu'r delyn mewn cyd-destun Ewropeaidd gan Edwards, DGIA 220–1, a chynigir darlleniad manwl o'r cywydd gan Fulton, DGEC 129–31.

Y mae tri fersiwn sylfaenol o'r cywydd. Ceir y copi cynharaf yn llaw Gwilym Tew yn Pen 51 (c. 1460–80), testun annibynnol sy'n anodd neu'n amhosib ei ddarllen mewn ambell fan. Cynrychiolir fersiwn Llyfr Wiliam Mathew gan Pen 49 a thair o lsgrau Llywelyn Siôn; nodwyd rhai amrywiadau o'r fersiwn hwn hefyd yn Ll 186. Cynrychiolir fersiwn y Vetustus gan bum llsgr. sy'n cynnwys Ll 20 a'r copïau sy'n deillio ohono, a chan y darlleniadau amrywiol a ychwanegwyd gan John Davies, Mallwyd yn Pen 49. Er mai Pen 51 yw'r testun cynharaf, y mae'n cynnwys cryn nifer o ddarlleniadau anfoddhaol, ac mae trefn y cwpledi yn ddryslyd, yn enwedig yn llau. 5–20. Cymysglyd hefyd yw trefn y cwpledi yn fersiwn y Vetustus yn y fan hon ac yn 53–62, arwydd o drosglwyddiad llafar y cywydd. Ceir dilyniant mwy ystyrlon i'r cwpledi yn fersiwn LlWM ac fe'i dilynir yn y golygiad, gan ychwanegu llau. 25–6 a ddiogelwyd yn y ddau fersiwn arall. (Yr unig wahaniaeth yn y drefn rhwng Pen 49 a llsgrau. Llywelyn Siôn yw fod 45–6 a 47–8 o chwith yn yr olaf.) Sylwer yn arbennig ar y gyfres o wrthgyferbyniadau cymesur ar ddechrau'r cywydd rhwng llau. 1–4/5–8, 9–10/11–12, 13–14/15–16, sydd mor nodweddiadol o arddull Dafydd. Ond fel y gwelir yn y nodiadau isod, cynhwyswyd yn y golygiad rai darlleniadau amgenach o'r ddau fersiwn arall, yn enwedig tua diwedd y cywydd.

Cynghanedd: croes 21 ll. (30%), traws 20 ll. (29%), sain 24 ll. (34%), llusg 5 ll. (7%). Ceir sain bengoll yn llau. 39 a 49.

1. silltaerynnau   Ffurf fachigol luosog y gair prin silltaer 'dolen, cadwyn', gw. GPC 3280 a nodyn Thomas Parry yn GDG t. 509.

4.   a gefais o'th law sydd yn fersiwn y Vetustus a Pen 51, gydag Er gwawd, h.y. yn gyfnewid am wawd, yn ll. 2 yn y Vetustus. Ond yr ergyd yw fod Dafydd wedi anrhegu'r ferch â chywyddau ac â rhoddion mwy materol heb dderbyn tâl ond poenau serch. Cymh. 107.9–16 Treuliais dalm, trwy loes dylyn, / O gerdd dda wrth garu'r ddyn ... Treuliais a gefais o gae. / Treuliais, nid fal gŵr trylwyn, / Tlysau o'r mau er ei mwyn.

6. adegrnwyf   Unig enghraifft. Pen 49 adegyrnwyf, Pen 51 a dygrnwyf; ni cheir y cwpled yn fersiwn y Vetustus. Rhagddodiad cryfhaol ad- (cymh. atgas) + egr + nwyf. GDG edegrnwyf (fel llsgrau Llywelyn Siôn), a restrir yn GPC gyda'r ystyr 'llym, bywiog'.

10. sirig   Sidan neu ddamasg drudfawr, cymh. WM 240.6–8 na welsei eiryoet niuer kyhardet a hwnnw o bali a seric a syndal.

10+.   Yn fersiwn y Vetustus yn unig ceir y cwpled ychwanegol: Ni roud di erof fi faint / Y mymryn, gwenddyn gwynddaint, ac fe'i cynhwyswyd yng ngolygiad Thomas Parry, GDG 84.15–16. Er bod y cwpled yn gweddu'n dda yn dilyn y geiriau a rois erod, digwydd yr un brifodl yn y cwpled canlynol (11–12), a cheir cwpled tebyg iawn yn 144.39–40: Ni wnâi hi erof fi faint / Y mymryn, gwenddyn gwynddaint. Ymddengys mai yno y mae'r cwpled yn perthyn mewn gwirionedd.

11. gwaeth no gwyr ssaint   Pen 51 gwae nas gwyr ssaint; fersiwn y Vetustus gwaeth no gwir saint. At erledigaeth a merthyrdod rhai o'r saint y cyfeirir, mae'n debyg.

14. gwedd memrwn   Ceir yr un gymhariaeth am wyneb lleian yn un o gerddi'r apocryffa, DGA 18.33 Amrant du ar femrwn teg. Cymh. hefyd 148.22 Lliw papir, ac efallai 45.9 Llythr unwaith am yr wylan.

17. Gwaeddan   Awgrymir gan y llinellau canlynol chwedl goll am y cymeriad hwn a'i gapan, sef ei fantell, neu ei gap, efallai. Am enghreifftiau pellach o'r enw, gw. G 601. Y mae'n amlwg mai enw priod sydd yn ll. 20, ond yn enwedig yng ngoleuni'r gair newidwriaeth 'masnach' yn y cwpled hwn, gellid deall yr enghraifft hon fel enw cyffredin yn golygu 'gwaeddwr, crïwr, un sy'n gweiddi neu grio ei nwyddau', fel y gwneir yn GPC 1548 (gan ddilyn G). Felly y'i dehonglir yn GPB 3.25–8 Wrth na chredais gant rhybudd / Cyn cystudd a cholledau, / Ef a'm gelwir am Siwan / Gwaeddan gwaeth ei newidiau (gw. ib. 35), ond nid annichon fod Prydydd Breuan yn adleisio'r un chwedl am gymeriad a siomwyd neu a dwyllwyd gan ferch.

26. ddifai dwf   Darlleniad Pen 51, a rydd well synnwyr na ddifai dwyll fersiwn y Vetustus. Ni cheir y cwpled yn fersiwn LlWM.

Dyfed   Ergyd y cwpled yw fod y ferch yn hanu o wlad yr hud, fel y gelwir Dyfed yn awdl farwnad Dafydd i'w ewythr Llywelyn ap Gwilym oherwydd yr hud a fwrir ar saith cantref Dyfed gan Llwyd fab Cil Coed (cymh. ll. 34) yn nhrydedd gainc y Mabinogi: 6.21 Pendefig, gwledig gwlad hud is dwfn, ib. 1–2 Dyfed a siomed, symud ei mawrair, / Am eryr bro yr hud; cymh. 8.2 yng ngwlad yr hud.

27. nid un   Dilynir fersiwn y Vetustus yma. Pen 51 Ni bu; fersiwn LlWM nid dim.

28. gwarae twyll   gwarant twyll sydd yn fersiwn y Vetustus.

cymwyll caeth   Digwydd y gair cymwyll yn aml yn sangiadau Dafydd, gw. Bromwich (SPDG 120).

29. Menw   Y dewin chwedlonol Menw fab Teirgwaedd, a enwir yn y Trioedd ac yn chwedl Culhwch ac Olwen, gw. TYP 457–8 a 35–42n. isod. Cyfeirir ato hefyd yn 28.53. Gallai ei wneud ef ei hun ac eraill yn anweledig ac ymrithio yn rhith aderyn, gw. CO 15, 36.

31–2.    Ni cheir y cwpled yn Pen 51.

31. uthr   Yng ngoleuni cysylltiad Uthr Bendragon â hudoliaeth yn y Trioedd, gw. 35–42n. isod, tybed nad oes yma gyfeiriad at y cymeriad hwnnw?

34. ail rhyfel   llid rhyfel sydd yn Pen 51 ac yn fersiwn y Vetustus, ond rhydd darlleniad fersiwn LlWM well ystyr, a chynhelir cymeriad llafarog y tair llinell flaenorol. Nid yw'r cyflythreniad rhwng llid a llwyd yn angenrheidiol i'r gynghanedd sain.

Llwyd fab Cel Coed   Llwyt uab Kil Coet y gelwir y cymeriad hwn yn PKM 64, ond Llwydeu mab Kel Coet yw'r ffurf yn CO 37, cymh. ib. 11. Ar yr enw, gw. PKM 247.

35–42.   Amrywiad sydd yma ar driawd tebyg i 'Dair Prif Hud Ynys Prydein', TYP 56: Hut Math mab Mathonwy (a dysgawd y Wdyon vab Don), a Hut Vthyr Bendragon (a dysgawd y Venw vab Teirgwaed), a Hut Gwythelin Gorr (a dysgawd y Goll vab Kollurewy y nei). Enwir Menw hefyd yn un o 'Dri Lledfrithawg Ynys Prydain', TYP 55, ac mewn un fersiwn o'r triawd hwnnw sy'n rhestru'r 'Tri Lledrithawg Farchog oedd yn Llys Arthur', ib. 250, cyplysir Menw â Thrystan ap Tallwch ac Erddilig Gor. Ar driawd Dafydd, gw. ymhellach R. Geraint Gruffydd, 'Cywyddau Triawdaidd Dafydd ap Gwilym', YB xiii (1985), 174–5.

40. Eiddilig Gor   Fel y gwelir uchod, ceir y ffurfiau Erddilig Gor a Gwyddelyn Gor yn y Trioedd. Fe all mai cymeriadau gwahanol ydynt, gw. TYP 338.

42. Math ... rhi Arfon   Math fab Mathonwy, arglwydd Gwynedd, a oedd yn enwog am ei ddewiniaeth. Yn ôl pedwaredd gainc y Mabinogi, yr oedd ei lys yng Nghaer Dathl yn Arfon. Gw. PKM 249–50, TYP 448–50. Cymherir twyll merch â hudoliaeth Math mewn englyn a ddyfynnir yng Ngramadeg Einion Offeiriad, GEO Atodiad C, rhif 4 Un dwyll wyt o bwyll, o ball dramwy — hoed, / Â hud mab Mathonwy; / Unwedd y'th wneir â Chreirwy, / Enwir fryd, rhyhir frad rhwy.

43.   Dilynodd Thomas Parry ddarlleniad fersiwn y Vetustus: Cerddais ar holl bencerddiaeth, sy'n wahanol i'r ddau fersiwn arall (hyd y gellir barnu, gan fod testun Pen 51 yn anodd ei ddarllen yma). Cyfarch y ferch y mae Dafydd, gan ychwanegu ei henw, mewn dull nodweddiadol ohono, at y drindod flaenorol. Caiff hithau hefyd ei henwogi am ei lledrith — cymh. Henw yt fydd (ll. 47) â ceidw ei brifenw (ll. 37). Yn yr un modd, fe ddywed Dafydd wrth Ifor ap Llywelyn (Ifor Hael): Rhoddaf yt brifenw Rhydderch (GDG 7.10).

penceirddiaeth   Tebyg mai ardal awdurdod pencerdd a olygir, gw. GPC 2734.

45. dlyy   Rhydd y llsgrau wahanol ffurfiau ar y ferf dlyu 'haeddu' — sy'n ffurfio cymeriad cryf â delyn yn y llinell nesaf — ac eithrio Pen 51: dygy.

cymhenbwyll   cymhendwyll sydd yn fersiwn y Vetustus.

46. telyn ariant   Tlws a roddid i bencerdd y delyn ar ddydd gŵyl, mae'n debyg. Ceir tystiolaeth ddiweddarach am gyflwyno telynau arian yn wobrau mewn eisteddfodau. Â geiriad y cwpled hwn, cymh. yn arbennig GST i, 140.34 Dylai'n wir delyn arian (am Dai Nanclyn a wnaed yn athro Cerdd Dant yn Eisteddfod Caerwys, 1523, gw. ib. ii, 499–500). Cymh. ymhellach LlC ii, 134 Oi dai rhoddir gowir gan / Yn wir y delyn arian / A dyfod eisteddfod ynn / Yma dal am y delyn (Siôn Mawddwy, 16g.); B v, 26 yr Arglwydh Rys ... ar wedh dav dlws ariant, a ossodes i bhvdhvgolion yr ymryssonev, nyd amgen colar ariant i'r prydydh; telyn ariant i'r telynior; a chrwth avr i'r crythor (Statud Gruffudd ap Cynan, 16–17g.). Ceir sôn am yr ariandlws a wisgai athrawon cerdd dafod a cherdd dant (y bardd, y telynor, y crythor a'r datgeiniad), sef tlws ar ffurf cadair, telyn, crwth a thafod, gw. yr enghreifftiau a ddyfynnir yn GPC 204 d.g.

49. gair gyrddbwyll   Fersiwn LlWM gair gyrbwyll. Haws credu i'r ffurf gyfansawdd anghyffredin gyrddbwyll droi'n gyrbwyll (ffurf ar crybwyll) nag fel arall. Pen 51 ath alw a wneir ddyn geirbwyll, ymgais efallai i greu cynghanedd lusg yn lle'r sain bengoll.

50. armes   Darogan neu broffwydoliaeth ynghylch enwogrwydd y ferch. Ceir y ffurf arymes yn 122.13.

52. gradd   'Urddas, teilyngdod', efallai, ond gall fod yr ystyr gerddorol yn bresennol yma ac yn ll. 53, sef y cyfwng rhwng dau nodyn mewn graddfa; gw. GPC 1519 lle y dyfynnir enghraifft o'r 14g. Cofier hefyd am radd pencerdd etc.

54. ysgwthr   Cymh. 113.4 Ysgythrlen frig cangen coed. Fersiwn LlWM yn unig a rydd y darlleniad hwn; Pen 51 yssgwl, fersiwn y Vetustus ysgarth.

56. ffyrf   Ymddengys i'r ansoddair ffyrf 'grymus' droi'n enw, ffurf, mewn rhai llsgrau., e.e. Pen 49 o ffurf kelvyddyt fferyll (cymh. GDG). ffyrf gelfyddyd sydd yn y rhan fwyaf o lsgrau'r Vetustus, a sylwer bod celfyddyd yn treiglo'n feddal yn e.e. Ll 120 O ffurf gelfyddyd fferyllt. O ffurf g6lfydd Fferyll a geir yn Pen 51.

Fferyll   Y bardd Lladin Vergilius, a oedd yn enwog fel dewin yn yr Oesoedd Canol. Cymh. Drychau o ffeiriau Fferyll yn ddisgrifiad o'r gerlant o blu paun yn 134.32 (gw. n).

57. llorf   Y post unionsyth yn ffrâm y delyn, gw. GPC 2209 a chymh. 24.11–12 Telyn ni roddid dwylaw / Ar ei llorf ... .

58. o hud gwir   Fersiwn LlWM o hud gwr; Pen 51 O hoed gwr ac hud garw. Ymddengys darlleniad fersiwn y Vetustus yn fwy ystyrlon yma.

59. ebillion   Y pegiau neu'r pinnau drwy grib telyn sy'n dal y tannau fel y gellir eu tynhau neu eu llacio, gw. GPC 1156.

61. deulafn o aur   Dwy ddalen denau neu ddau dalp o aur, gw. GPC 2086 d.g. llafn a'r enghreifftiau a ddyfynnir yno.

62. yn   er sydd yn fersiwn LlWM (cymh. GDG). O'i dderbyn gellid yr ystyr 'haeddu' i'r ferf talu, yn hytrach na 'bod yn werth'.

63.   Yn yr achos hwn, cefnogir darlleniad fersiwn y Vetustus gan Pen 51 Wi or wenngerdd aur wingoeth. Fersiwn llai tebygol LlWM a ddilynir yn GDG: Wi o'r wangerdd wawr wengoeth. Cymh. 9.62 Gwrddfar, gwingar ddâr, gwengerdd uriad.

65–6. Trech yw crefft ... no golud   Yma eto y mae fersiwn LlWM, Gwell yw crefft ..., yn wahanol i'r ddau fersiwn arall. Ceir y ddihareb 'Gwell crefft na golud' yn y casgliad o ddiarhebion ar ddiwedd geiriadur John Davies, Mallwyd, ar sail ei gopi o'r cywydd hwn, mae'n debyg, yn Pen 49. Cymh. 108.17–18 Hud yw golud, a gelyn, / Brwydr dost yw a bradwr dyn.

67–70.   Y gystrawen yw Cymer ... gennyf ... le yr ŵyl ..., sef safle anrhydeddus yn yr ŵyl oherwydd rhagoriaeth y ferch ar y delyn, mae'n debyg. Ynteu ai awgrymu y mae Dafydd bod y ferch yn haeddu'r lle blaenaf yn yr ŵyl yn ei le ef ei hun? Ni welwyd enghraifft arall o'r ymadrodd hwn.

67. Nyf   Enw merch, sef yr arwres Wyddelig Niamh, o bosib, gw. 69.8n. ar Nyf gain, a Bromwich (SPDG 60, 62). Digwydd yr ymadrodd bryd Nyf hefyd ym 'Marwnad Gwenhwyfar' Gruffudd ap Maredudd, GGM iii, ? Fel enw cyffredin, 'eira', ac felly y'i deellir yn nhestun GDG.

68. cannwyll   Cymh. cwpled clo rhif 108 (43–4) Am fy nghannwyll y'm twyllwyd, / Morfudd, lliw goleuddydd, Llwyd; 127.22 gannwyll Gwynedd (Morfudd eto efallai); 156.17 Maelor gannwyll.

gwlad Gamber   Yn ôl Sieffre o Fynwy, un o feibion Brutus oedd Camber, cymh. Brut Dingestow 21 ac y kymerth Kamber o'r tu arall y Hauren, yr hon a elwir o'e env ef Kymry, a GDC 13.71 Camber rymuster.

69. llawrodd   llawrudd 'llofrudd' sydd yn fersiwn y Vetustus, sy'n llai addas yng nghyd-destun y llinell, ond cymh. llwyrfarw yn ll. 57 uchod.