| Merch o Is Aeron | |
| Celennig yw cael annerch | |
| Calon Is Aeron a'i serch. | |
| Gwan y bardd sythardd, seithug, | |
| 4 | Gwawn Geredigiawn a'i dug. |
| Gwae a fwrw, gwiw oferedd, | |
| Ei serch, meirionesferch medd, | |
| Llary bryd, hi yw lloer ei bro, | |
| 8 | Lluniaeth ocr, lle ni thycio. |
| Gwae a wŷl â gwyw olwg | |
| Ar fun aur ddiaerfen wg, | |
| Ni ddiddyr faint ei ddeuddeigr | |
| 12 | O'i chariad, diwygiad Eigr. |
| Gwae a oerddeily gwayw erddi | |
| Oddi fewn, mal ydd wyf i, | |
| Yn drysor bun, yn drasyth, | |
| 16 | Yn ddadl fawr, yn ddidal fyth. |
| Gwae a wnêl rhag rhyfel rhew | |
| Dŷ ar draeth, daear drathew, | |
| Bydd anniogel wely, | |
| 20 | Byr y trig a'r berw a'i try. |
| Gwae a gâr, gwiw y gorwyf, | |
| Gwen drais, gwenifiais gwayw nwyf, | |
| Gwynllathr ei gwedd, gweunllethr gwawn, | |
| 24 | Gwynlliw'r geirw, gwenlloer Garawn. |
| Erfai leddf, oerfel iddi, | |
| Ar fy hoen neur orfu hi. | |
| Eirian liw, oroen lawir, | |
| 28 | Euren deg o Aeron dir, |
| Aerau len, eiry oleuni, | |
| Ar ei hyd a eura hi. | |