Merch o Is Aeron
Calennig yw cael cyfarch
calon Is Aeron a'i serch.
Gwan yw'r bardd harddsyth, seithug,
4 gwawn Ceredigion a'i dygodd.
Gwae'r sawl a fo'n bwrw'i serch, oferedd gwych,
merch sy'n darparu medd,
llariaidd ei gwedd, hi yw lloer ei bro,
8 trefnu benthyca ar log [yw hynny], lle nad yw'n tycio.
Gwae'r sawl a wêl â golwg bwl
wg ar ferch wych, fwyn,
ni phoena ddim am faint ei ddagrau
12 oblegid ei gariad tuag ati, gwedd Eigr.
Gwae'r sawl a fo'n dal yn ddigalon wayw o'i herwydd
y tu mewn iddo, fel yr wyf i,
yn drysor merch, yn dalsyth,
16 yn fawr ei helynt, yn ddi-dâl fyth.
Gwae'r sawl a wnêl rhag rhyfel rhew
dy ar draeth, daear gadarn,
bydd ei wely'n anniogel,
20 byr y pery a bydd y llanw'n ei ddymchwel.
Gwae'r sawl a gâr, gwiw y gwneuthum,
gormes merch, gwasanaethais wayw serch,
yr un lathrwyn ei gwedd, llethr gwaun [dan] wawn,
24 lliw gwyn y tonnau, lloer wen Caron.
Y ferch wych, dyner, melltith arni,
gorchfygodd hi fy llawenydd.
Hardd ei lliw, hael ei gwedd,
28 eurdlws teg o dir Aeron,
baner brwydrau, goleuni eira,
mae hi'n ei goreuro ar ei hyd.