Merch o Is Aeron
    Calennig yw cael cyfarch
    calon Is Aeron a'i serch.
    Gwan yw'r bardd harddsyth, seithug,
4    gwawn Ceredigion a'i dygodd.
    Gwae'r sawl a fo'n bwrw'i serch, oferedd gwych,
    merch sy'n darparu medd,
    llariaidd ei gwedd, hi yw lloer ei bro,
8    trefnu benthyca ar log [yw hynny], lle nad yw'n tycio.
    Gwae'r sawl a wêl â golwg bwl
    wg ar ferch wych, fwyn,
    ni phoena ddim am faint ei ddagrau
12    oblegid ei gariad tuag ati, gwedd Eigr.
    Gwae'r sawl a fo'n dal yn ddigalon wayw o'i herwydd
    y tu mewn iddo, fel yr wyf i,
    yn drysor merch, yn dalsyth,
16    yn fawr ei helynt, yn ddi-dâl fyth.
    Gwae'r sawl a wnêl rhag rhyfel rhew
    dy ar draeth, daear gadarn,
    bydd ei wely'n anniogel,
20    byr y pery a bydd y llanw'n ei ddymchwel.
    Gwae'r sawl a gâr, gwiw y gwneuthum,
    gormes merch, gwasanaethais wayw serch,
    yr un lathrwyn ei gwedd, llethr gwaun [dan] wawn,
24    lliw gwyn y tonnau, lloer wen Caron.
    Y ferch wych, dyner, melltith arni,
    gorchfygodd hi fy llawenydd.
    Hardd ei lliw, hael ei gwedd,
28    eurdlws teg o dir Aeron,
    baner brwydrau, goleuni eira,
    mae hi'n ei goreuro ar ei hyd.