â â â Merched Llanbadarn
1â â â Plygu rhag llid yr ydwyf,
2â â â Pla ar holl ferched y plwyf!
3â â â Am na chefais, drais drawsoed,
4â â â Ohonun yr un erioed,
5â â â Na morwyn, fwyn ofynaig,
6â â â Na merch fach na gwrach na gwraig.
7â â â Pa rusiant, pa ddireidi,
8â â â Pa fethiant na fynnant fi?
9â â â Pa ddrwg i riain feinael
10â â â Yng nghoed tywylldew fy nghael?
11â â â Nid oedd gywilydd iddi
12â â â Yng ngwâl dail fy ngweled i.
13â â â Ni bu amser na charwn -
14â â â Ni bu mor lud hud â hwn -
15â â â Anad gwyr annwyd Garwy,
16â â â Yn y dydd ai un ai dwy,
17â â â Ac er hynny nid oedd nes
18â â â Ym gael un no'm gelynes.
19â â â Ni bu Sul yn Llanbadarn
20â â â Na bewn, ac eraill a'i barn,
21â â â A'm wyneb at y ferch goeth
22â â â A'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.
23â â â A chwedy'r hir edrychwyf
24â â â Dros fy mhlu ar draws fy mhlwyf,
25â â â Syganai y fun befrgroyw
26â â â Wrth y llall hylwyddgall, hoyw:
27â â â 'Godinabus fydd golwg -
28â â â Gwyr ei ddrem gelu ei ddrwg -
29â â â Y mab llwyd wyneb mursen
30â â â A gwallt ei chwaer ar ei ben.'
31â â â 'Ai'n rhith hynny yw ganthaw?'
32â â â Yw gair y llall geir ei llaw,
33â â â 'Ateb nis caiff tra fo byd,
34â â â Wtied i ddiawl, beth ynfyd!'
35â â â Talmithr ym rheg y loywferch,
36â â â Tâl bychan am syfrdan serch.
37â â â Rhaid oedd ym fedru peidiaw
38â â â Â'r foes hon, breuddwydion braw.
39â â â Gorau ym fyned fal gwr
40â â â Yn feudwy, swydd anfadwr.
41â â â O dra disgwyl, dysgiad certh,
42â â â Drach 'y nghefn, drych anghyfnerth,
43â â â Neur dderyw ym, gerddrym gâr,
44â â â Bengamu heb un gymar.