Merched Llanbadarn
Plygu gan ddicter yr ydwyf,
boed pla ar holl ferched y plwyf!
am na chefais, hiraeth creulon, gormesol,
4 yr un ohonynt erioed,
na gwyryf, deisyfiad mwyn,
na merch fach na gwrach na gwraig.
Pa rwystr, pa anfadrwydd,
8 pa ddiffyg sy'n peri na fynnant mohonof?
Pa ddrwg fyddai i ferch fain ei haeliau
fy nghael mewn coedwig dywyll, drwchus?
Ni fuasai'n gywilydd iddi
12 fy ngweld i mewn gwely o ddail.
Ni fu adeg na charwn -
ni fu'r un hud mor ddyfal â hwn -
yn fwy hyd yn oed na gwyr tebyg i Garwy,
16 mewn diwrnod naill ai un neu ddwy,
ac er hynny nid oeddwn ddim nes
at gael un nag at gael fy ngelynes.
Ni fu Sul yn Llanbadarn
20 na fyddwn, ac mae eraill yn gweld bai ar hynny,
a'm hwyneb at y ferch goeth
a'm gwegil at Dduw sanctaidd.
Ac wedi imi fod wrthi'n edrych yn hir
24 dros fy mhlu ar draws fy nghyd-blwyfolion,
hisiai'r eneth ddisglair a chroyw
wrth y llall, merch ddoeth, ragorol, hardd:
'Godinebus fydd golwg -
28 gwyr ei lygaid sut i gelu ei ddrygioni -
y llanc gwelw ag wyneb mursen
a gwallt ei chwaer ar ei ben.'
'Ai felly y mae hi ganddo?'
32 yw gair y llall yn ei hymyl,
'Ni chaiff ateb tra pery'r byd,
i ddiawl ag ef, yr ynfytyn!'
Syndod imi oedd rheg y ferch loyw,
36 tâl bychan am serch syfrdan.
Bydd yn rhaid imi fedru rhoi'r gorau
i'r arfer hon, breuddwydion braw.
Byddai'n well imi fynd fel gwr
40 yn feudwy, swydd dihiryn.
Drwy ddyfal edrych, gwers sicr,
tuag yn ôl, drych o drueni,
darfu imi, cyfaill i rym cerdd,
44 droi'n bengam heb un cymar.